S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Richard Holt: Yr Academi Felys

Cacen Rhithiol

Cynhwysion

Cynhwysion y canol fanila

  • 3 Gellyg
  • Sudd 1 lemon
  • 1 Pod fanila

Cynhwysion y Mousse Mascarpone

  • 100g Hufen wedi ei ferwi
  • 100g Siwgr
  • 1 Pod fanila
  • 2 Ddeilen gelatin
  • 300g Mascarpone
  • 425g Hufen Chwipio

Cynhwysion y gorchudd Siocled

  • 100g Siocled gwyn
  • 100g Menyn cocoa
  • 3g Lliw bwyd gwyrdd
  • 3g Lliw bwyd brown
  • 3g Powdwr cocoa

Dull

Cam 1

  1. Pliciwch y gellyg a'u gosod mewn powlen o ddŵr gydag ychydig o sudd lemon (mi fydd hyn yn atal nhw rhag troi'n frown)
  2. Torrwch hanner y gellyg yn fras a blendio'r gweddill.
  3. Cymysgwch y darnau gellyg a'r piwrî gyda hanner pod fanila.
  4. Rhowch y gymysgedd mewn mowld silicon hanner sffêr a'i rhewi.

Cam 2

  1. Berwch yr hufen a siwgr mewn sosban gyda hadau hanner arall y pod fanila.
  2. Ychwanegwch ddail gelatin (sydd mewn bod mewn powlen o ddŵr rhewllyd) i'r mascarpone. Blendiwch yn dda.
  3. Ychwanegwch weddill yr hufen a'i flendio gan adael i setio yn yr oergell dros nos.

Cam 3

  1. Unwaith i'r sfferau rewi, glynwch ddau at ei gilydd i greu sffêr cyflawn.
  2. Chwipiwch y mousse mascarpone nes yn esmwyth.
  3. Peipiwch mousse i mewn i fowld sffêr ychydig yn fwy a phwyswch damaid o'r canol i mewn iddo. Gadewch i rewi (10 munud)
  4. Tynnwch y sfferau o'r mowld gan wasgu'r ddau hanner yn sownd er mwyn cwblhau'r sffêr. Gadewch i rewi.
  5. Peipiwch mousse ar ben y sffêr wedi ei rewi gan ddefnyddio spatula i wneud siâp yr ellygen.

Cam 4

  1. Toddwch 1 rhan Siocled ac 1 rhan menyn cocoa gyda'i gilydd.
  2. Ychwanegwch liw gwyrdd fel pistachio a'i gymysgu.
  3. Ychwanegwch binsiad o liw bwyd brown a'i gymysgu yn fras.
  4. Gadewch y gymysgedd i oeri i 30 gradd selsiws cyn rhoi'r siâp gellygen i mewn ynddo.
  5. Gadewch y Siocled i setio cyn brwsio'r gellyg gyda phowdwr cocoa.

Cam 5

  1. Peipiwch linell o Siocled wedi torri ar bapur gwrthsaim
  2. Gadewch i setio cyn eu gosod ar ben bob gellygen
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?