S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Richard Holt: Yr Academi Felys

Croquembouche

Cynhwysion

Craquelin lliwgar

  • 110g menyn meddal
  • 140g siwgr mân
  • 130g blawd plaen
  • Lliw (gel) o'ch dewis

Choux Pastry Puffs

  • 250g llefrith
  • 2 tbsp siwgr caster
  • 1/2 tsp halen
  • 200g menyn heb halen
  • 130g blawd
  • 100g ŵy

Cwstard Fanila

  • 500ml llefrith
  • 1 tsp Fanila bean paste / 1 pod fanila
  • 6 melynwy
  • 74g siwgr mân
  • 25g blawn plaen
  • 20g blawd corn

Caramel

  • 400g siwgr
  • 115g dŵr

Dull

  1. Craquelin - Cymysgwch y menyn, siwgr a'r lliw efo'i gilydd mewn powlen efo llwy bren nes yn esmwyth
  2. Ychwanegwch y blawd i'r gymysgedd a'i gymysgu yn dda
  3. Rholiwch y gymysgedd rhwng dau ddarn o bapur pobi nes ei fod yr un trwch a thamaid punt.
  4. Rhowch yn yr oergell nes ei fod yn ffirm/ei fod angen.
  5. Choux - Rhowch yr popty i gynhesu ar 180c
  6. Rhowch y llefrith, siwgr, halen a menyn mewn i sosban a'i gynhesu dros wres isel.
  7. Unwaith mae'n dechra berwi, rhowch y blawd mewn a'i gymysgu yn drylwyr efo llwy bren.
  8. Coginiwch dros wres isel ar y stof tra'n dal i gymysgu efo'r llwy bren. Ddylia fod yr haen ar waelod y sosban yn dod i ffwrdd erbyn iddo goginio digon.
  9. Rhowch y gymysgedd mewn powlen mixer (neu defnyddiwch bowlen arferol a defnyddio hand mixer i'r cam nesaf) a'i adael i gwlio am 2 funud.
  10. Efo'r paddle attachment rhowch y mixer ymlaen a'i gymysgu am 1 munud ag yna ychwanegwch 1 ŵy ar y tro.
  11. Ddylia fod y gymysgedd yn esmwyth ag eitha llac ond ddim rhy llac lle fyddwch methu ei beipio.
  12. Rhowch y gymysgedd mewn bag peipio.
  13. Peipiwch gylchoedd bach yr un maint ar baking tray wedi ei leinio efo baking paper.
  14. Estynwch y craquelin a torri allan cylchoedd bach fydd yn gorchuddio top y pastry.
  15. Rhowch gylch ar bob puff a rhowch yn y popty ar 180C am 20-25 munud.
  16. Pan yn barod ddylia eu bod wedi codi a dwblu mewn maint. Agorwch drws y popty a gadewch iddynt gwlio yn y popty am ychydig o amser er mwyn gwneud yn siwr eu bod wedi sychu.
  17. Cwstard Fanila - Cynheswch y llefrith mewn sosban dros wres isel efo'r fanila.
  18. Rhowch weddill y cynhwysion mewn powlen a chwipiwch efo'u gilydd.
  19. Arllwyswch fymryn o'r llefrith poeth dros gymysgedd yr ŵy yn araf gan chwipio yn sydyn.
  20. Rhowch weddill y llefrith i mewn i'r fowlen a'i gymysgu yn dda.
  21. Rhowch y cwstard yn ôl i mewn i'r sosban a'i goginio yn araf nes ei fod yn dew.
  22. Rhowch mewn powlen a'i orchuddio efo cling film er mwyn ei gwlio nes ei fod angen. (Gwnewch yn siwr fod y ffilm yn cyffwrdd dop y cwstard er mwyn atal croen.)
  23. Pan yn barod i'w ddefnyddio chwipiwch i gael o'n esmwyth a'i roi mewn bag peipio.
  24. Rhowch dwll yn bob puff, a llenwch y puffs efo'r cwstard.
  25. Caramel - Dewch a'r siwgwr i ferwi dros wres canolog nes ei fod yn dechra troi yn liw caramel. Peidiwch a'i adael am hir gan ei fod yn gallu llosgi yn hawdd.
  26. I'w osod - Estynwch blat neu board a gosodwch y côn yn y canol (defnyddiwch côn!)
  27. Dipiwch un o'r puffs ar ei ochr i mewn i'r caramel ai atodi ar waelod y côn gan wneud yn saff fod y caramel yn cyffwrdd yn y board/plat. Gwnewch yr un fath ar hyd waelod y côn nes fod gennych chi res cyfa.
  28. Gwnewch yr un fath i dop y côn et voila croquembouche wneith ddim disgyn!
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?