S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Richard Holt: Yr Academi Felys

Mari Lois Evans,
20, Botwnnog

O Ben Llŷn yn wreiddiol, mae Mari yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio gradd Addysg Gynradd ym Mhrifysgol Bangor. Yn byw adra gyda'i rhieni, Carys a Carwyn, a'i chwiorydd bach Alaw ac Elan, mae ganddi gariad hefyd o'r enw Tomos.

Dechreuodd bobi'n ifanc gyda'i nain, a oedd yn ei gwarchodd tra roedd ei mam yn gweithio. Aeth Mari ymlaen i gael gradd A mewn cwrs TGAU Bwyd a Maeth, ac erbyn hyn mae hi wedi sefydlu busnes lleol, @cecs_marilois. Gwnaeth gais am le yn yr Academi yn y gobaith y byddai'n gallu 'datblygu sgiliau, cyfarfod pobl newydd sy'n rhannu'r un hobiau a fi, a chael arweiniad gan arbenigwr o'r maes yn hytrach na gwylio fideos YouTube ar ben fy hun!'.

Trefnus, siaradus ('sw'n i wir yn gallu siarad dros Gymru') a bob tro'n barod am hwyl, mae'r fyfyrwraig yn dweud ei bod hi'n 'ofn BOB dim'! Yn ei hamser sbâr mae Mari'n mwynhau cymdeithasu, ralio, siopa, coginio a chwerthin!

TRIVIA: 'Oedd genai ddafad llwath o'r enw Lowri oedd yn caru bisgedi Digestives - roedd pawb yn ei nabod hi! Pan oe'n i'n fengach oe'n i'n sgwennu hefo llaw chwith, nes i dad fy newid i law dde…'

DREAM DINNER GUESTS: 'Elin Fflur, Betsan Ceiriog ac 'unrhyw un sydd efo awydd laff!'

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?