Yn byw ym Mhen Llŷn gyda'i gŵr Matthew a'u meibion Gwion ac Elgan. Mae Carol wedi bod yn rhedeg busnes cacennau ei hun, Cegin Vernau, o gartref ers 6 mlynedd.
Cyn hynny, cwblhaodd cwrs arlwyaeth Lefel 1 a 2 yng Ngholeg Menai Bangor a, phan oedd hi'n 17 oed, aeth i weithio mewn gwesty 5 seren yn Llundain yn ogystal â bwyty am bedair blynedd.
Pob amser yn hapus ac yn barod i helpu pobl eraill, yn ei amser sbâr (sydd 'ddim yn aml iawn!') mae'r fam i ddau yn mwynhau siopa, 'neud 'cross stitch', chwarae golff, cerdded a thrafeilio - dathlodd ei phenblwydd yn 40 gyda'i theulu yn Efrog Newydd!
TRIVIA: 'Dwi pob amser gorfod cael blanced trydan ymlaen cyn mynd i fy ngwely, hud'nod yn yr haf!'
DREAM DINNER GUESTS: Tudur Owen a Meat Loaf (RIP).