S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Richard Holt: Yr Academi Felys

Wendy Pugh,
69, Llannerch-y-medd

Cyn-nyrs sydd yn byw ar Ynys Môn gyda'i gŵr Bob, yn wreiddiol o'r Rhondda. Cyn ymddeol 4 blynedd yn ôl, arbenigodd Wendy mewn Gastroenteroleg ac, yn ogystal a'i gwaith clinigol, gweithiodd ar draws Gymru yn arwain ar wella gwasanaethau endosgopi o 2008 hyd at 2016.

Dechreuodd ddysgu sut i addurno cacennau yn yr '80au. 'Y gacen cyntaf 'nes i oedd 'gitar' sbwng i fy ngwr ym 1986. Roe'n i'n byw yn Llundain ac wrth fy modd yn edmygu'r cacenni yn adran bwyd Harrods.' Ar ôl 'neud cwrs gwaith siwgr cymerodd frêc o nyrsio am ddwy flynedd i ganolbwyntio ar bobi cacennau arbennig, gan ennill llawer o gomisiynau gan un o brif gwmniau bwyd Llundain!'

Aeth Wendy nôl i nyrsio ar ôl i'w gŵr Bob gael diagnosis o MS a chychwyn ei driniaeth yn y '90au cynnar. 'Mae bywyd yn fyr ac amser yn mynd yn gyflym, dim cyfle i ailchware na ailddirwyn. Mae angen mwynhau pob eiliad fel mae'n dod - byw lot, chwerthin lot a gorffen yn hapus. Un o'r prif bethau dwi'n garu am y gwr ydi ei fod yn gwneud i mi chwerthin pob un dydd.'

O ran ymuno â'r Academi, dywedodd: 'Toes neb rhy hen i ddysgu! Collais fy nghyfle i fynd ar gyrsiau yn ddiweddar oherwydd y pandemig. Does dim byd fel dysgu wyneb yn wyneb - ni'n ffodus iawn o gael yr Academi Felys o fewn Cymru ac mae'n fraint bod yn rhan ohono.'

Creadigol, cystadleuol a pherffeithydd, mae Wendy wrth ei bodd yn garddio, cerdded, a gwrando i gerddoriaeth - 'o pop i glasurol a llawer yn y canol!'.

TRIVIA: Rhan o deulu mawr, mae Wendy yn: fodryb i naw nith a nai; hen fodryb i 13 nith a nai; ac yn hen, hen fodryb i Cedron a Gweni ('...ac i un bach arall sydd ar y ffordd!').

DREAM DINNER GUEST: Syr Tom Jones. Not unusual!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?