S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Richard Holt: Yr Academi Felys

Caroline Morris,
40, Sir Benfro

Mae Caroline yn byw ar ffarm yn Eglwyswrw (pentref bach ger Crymych ac Aberteifi) efo'i gŵr, Huw, a'u dau fab, Aled a Marc. Ar ôl aros adref am 5 blynedd i fagu'r plant, dychwelodd i waith trwy gwneud cwrs gofal plant - erbyn hyn mae'n gweithio llawn amser mewn Cylch Meithrin.

Dechreuodd Caroline bobi fel merch fach: 'Dysgais popeth rwyf yn gwybod gyda mam'. Mae hi 'di mwynhau bod yn rhan o, a derbyn lot o sylwadau positif yng ngrŵp Curo'r Corona'n Coginio. Hoffai ddysgu mwy o dechnegau a sgiliau yn yr Academi, yn enwedig addurno, a bod yn fwy mentrus: 'Rwy'n 'joio ceisio ryseitiau newydd ac wedi anelu at goginio pob math o brydau neis i'r teulu, ond mae rhan fwyaf o'n bethau yn fwyd cartref traddodiadol!'

Onest, gofalgar a gweithgar iawn, mae Caroline yn mwynhau chwarae pelwryd, siopa, cael profiadau bwyd gwahanol gan gynnwys malwod ('byddaf yn trial UNRHYWBETH!!') a bod allan ar y ffarm efo'i theulu. Mae hi'n 'dwli ar geffylau' ac yn 'joio gwylio'r hen Dallas, Yellowstone a Clarkson's Farm'.

TRIVIA: 'Rwyf wedi cyffwrdd â siarc, cwblhau 'Muddy Run' a 'Race For Life' gyda ffrindiau, cwrdd â Mickey Mouse… a rwyf yn rhoi gwaed!'

DREAM DINNER GUESTS: Keith Lemon, Peter Kay, Jonathan 'Jiffy' Davies, Bobby Ewing, Shane Williams a Kevin Costner… Am griw!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?