S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Richard Holt: Yr Academi Felys

Alarch Choux

Elfennau:

  • Crwst choux
  • Hufen chantilly

Offer:

  • 'Nozzles'
  • Bagiau peipio
  • Padell maint canolig
  • Llwy bren / sbatwla sy'n gwrthsefyll gwres
  • Hidl
  • Peiriant cymysgu
  • Wisg

Cynhwysion ar gyfer choux:

  • 125g llaeth
  • 125g dwr
  • 125g menyn
  • 10g siwgr
  • 5g halen
  • 150g blawd plaen
  • 5 ŵy

Cynhwysion ar gyfer hufen Chantilly:

  • 250ml hufen dwbl
  • 20g siwgr eisin
  • 1 llwy de o bast fanila

Cynhwysion ar gyfer addurno (os hoffech chi ddefnyddio)

  • Ffrwythau e.e. mefus / mafon / mwyar duon
  • 'Gold leaf'

Dull:

  1. Cynhesu'r popty i 180°C.
  2. I wneud y choux, dod a llaeth, dŵr, menyn, siwgr a halen i'r berw.
  3. Tynnu o'r gwres a chymysgu'r blawd wedi'i hidlo i mewn.
  4. Unwaith y bydd y blawd wedi'i ymgorffori'n llawn, rhoi'r badell nôl ar y gwres a'i droi am tua dwy i dri munud ar wres canolig.
  5. Trosglwyddo'r cymysgedd i'r peiriant cymysgu a throi i gyflymder canolig-uchel. Ychwanegu un ŵy ar y tro gan sicrhau bod pob ŵy wedi'i ymgorffori'n llawn cyn ychwanegu'r un nesaf.
  6. Trosglwyddo'r cymysgedd i fag peipio wedi'i ffitio â 'nozzle' siap seren.
  7. Pepio'r crwst choux ar ffurf cyrff a gyddfau alarch. 'Dustio' gyda siwgr eisin.
  8. Pobi cyrff yr alarch yn y popty am 20 munud, a gyddfau'r alarch am 10 munud.
  9. Chwipio'r hufen gyda siwgr eisin wedi'i hidlo a phast fanila nes ei fod yn bigau'n stiff, ond nid yn llwydaidd.
  10. Gadael i'r choux oeri am 5 munud cyn adeiladu'r elyrch gyda hufen a ffrwythau.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?