S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Richard Holt: Yr Academi Felys

Tarten blodyn

Amser: 10 munud

Elfennau:

  • Tarten
  • Llenwad
  • Mŵs mascarpone

Offer:

  • Bagiau peipio
  • Nozzles
  • Chwistrell bwyd metelaidd
  • Deilen aur

Cynhwysion ar gyfer y crwst:

  • 225g blawd cryf
  • 150g menyn
  • 3g halen
  • 75g siwgr caster
  • 1 Ŵy
  • 1 melynwy
  • Croen 1 lemwn

Cynhwysion ar gyfer y frangipane:

  • 100g menyn
  • 100g siwgr caster
  • 100g almonau mâl
  • 2 ŵy
  • Pinsiad o halen
  • Amaretto

Cynhwysion ar gyfer y llenwad:

  • 100g mafon
  • 100g siocled gwyn
  • 100g menyn coco

Dull ar gyfer y crwst:

  1. Rhidyllwch y blawd, siwgr a halen i mewn i fowlen cymysgu. Rhowch y menyn oer a'r croen lemwn mewn i'r fowlen a chymysgwch ar gyflymder canolig nes bod y crwst yn debyg i friwsion bara.
  2. Ychwanegwch yr ŵy a'r melynwy a'u cymysgu nes eu bod wedi eu cyfuno. Peidiwch a gor gymysgu.
  3. Rhowch y toes mewn cling film a'i adael i oeri am o leiaf awr.
  4. Tynnwch o'r oergell a gweithio'r toes gyda'ch dwylo nes yn esmwyth. Rholiwch allan a leiniwch y cas crwst.
  5. Pobwch gyda ffa pobi yn gyntaf ar dymheredd o 175 gradd selsiws am 20 munud. Tynnwch y ffa a'i bobi am ddeg munud arall.

Dull ar gyfer y frangipane:

  1. Cynheswch y popty i wres o 160 gradd selsiws.
  2. Cymysgwch y menyn meddal a'r siwgr mewn cymysgwr ar gyflymder canolig i uchel cyn ychwanegu'r ŵy.
  3. Ychwanegwch yr almonau mâl a'r halen.
  4. Rhowch y gymysgedd mewn hambwrdd pobi bas wedi'i leinio â phapur gwrth saim a'i bobi am 30 i 40 munud.
  5. Gadewch i oeri cyn ei dorri yn gylchoedd.
  6. Brwsiwch gyda swm da o amaretto.

Dull ar gyfer y llenwad:

  1. Cymysgwch y mafon a'u rhewi mewn mowld.
  2. Meddalwch y siocled gwyn a'r menyn coco gyda'i gilydd, yna trochwch y mafon sydd wedi'u rhewi.
  3. Gwnewch yn siŵr eu bod nhw wedi'u gorchuddio'n llawn. Gadewch i ddadmer.

I orffen:

  1. Chwipiwch y mascarpone a'i beipio yn betalau ar dop y darten.
  2. Chwistrellwch gyda'r chwistrell bwyd metelaidd a'i orffen gyda deilen aur.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?