Yn gyntaf, mae angen creu'r craquelin trwy gymysgu'r menyn a'r siwgr cyn ychwanegu'r blawd. Cymysgwch nes ei fod yn debyg i friwsion bara.
Gan ddefnyddio gwres eich dwylo, dewch a'r toes at ei gilydd a rholiwch allan i drwch o 3mm rhwng dwy ddalen o bapur pobi.
I wneud y choux, dewch a'r llefrith, dŵr, menyn, siwgr a halen i'r berw.
Tynnwch oddi ar y gwres a chymysgwch y blawd wedi'i hidlo.
Unwaith mae'r blawd wedi ei gymysgu i mewn, rhowch yn ôl ar y gwres a'i droi am ychydig o funudau ar wres canolig.
Trosglwyddwch y gymysgedd i mewn i gymysgwr a'i roi ar gyflymder Canolig/uchel. Ychwanegwch un ŵy ar y tro, gan wneud yn siŵr bod pob ŵy wedi ei gymysgu yn iawn cyn rhoi'r ŵy nesaf i mewn.
Trosglwyddwch y gymysgedd i mewn i fag peipio gyda 'nozzle' seren.
Peipiwch siâp o'ch dewis chi, a thorrwch allan darn o'r craquelin i eistedd ar ei ben.
Pobwch am 20 munud ar 180 gradd selsiws.
Chwipiwch y mousse siocled ac adeiladu'r Paris Brest.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?