S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Richard Holt: Yr Academi Felys

Bar Siocled Aur

Amser: 40 Munud

Elfennau:

  • Siocled wedi ei dymheru
  • Caramel bara lawr
  • Ganache rwm

Offer:

  • Sosban fach
  • Sosban canolig
  • Llwy bren
  • Sbatula gwrth-wres
  • Mowldiau silicon
  • Cymysgydd llaw
  • Powlen gymysgu

Cynhwysion caramel:

  • 180g o Siwgr
  • 135g o Glwcos
  • 20g o Ddŵr
  • 300g o Hufen chwipio
  • 45g o Fenyn
  • 45g o Fara lawr
  • 5g o Halen

Dull ar gyfer y caramel:

  1. Rhowch y siwgr, glwcos a'r dŵr mewn sosban canolig. Trowch y gwres i fyny i dymheredd canolig-uchel.
  2. Cynheswch yr hufen chwipio mewn sosban wahanol. Byddwch yn ofalys i beidio llosgi'r hufen.
  3. Coginiwch y gymysgedd siwgr nes ei fod yn liw brown tywyll. Gwnewch yn siwr eich bod chi'n ei droi yn aml.
  4. Trowch y gwres i ffwrdd. Arllwyswch yr hufen i mewn yn ofalus a'i droi yn aml.
  5. Ychwanegwch y menyn, bara lawr a'r halen.
  6. Cymysgwch yn defnyddio cymysgydd llaw.
  7. Rhowch trwy'r rhidyll a'i oeri.

Cynhwysion ar gyfer y ganache rwm:

  • 250g o Siocled tywyll
  • 180g o Hufen chwipio
  • 70ml o Rwm
  • 30g o Fenyn

Dull:

  1. Dewch a'r hufen i'r berw cyn ychwanegu'r siocled a'i gymysgu. Ychwanegu y menyn cyn cymysgu popeth gyda hand blender.
  2. Ychwanegwch y rwm a'i gymysgu nes yn esmwyth.
  3. Gadewch i oeri cyn ei beipio.

I'w Osod:

  1. Mae angen tymheru'r siocled cyn gorchuddio'r mowld.
  2. Peipiwch y caramel i mewn i'r bar, yna gwnewch yr un fath i'r ganache.
  3. Bydd angen tymheru mwy o'r siocled i selio'r bar.
  4. Gorchuddiwch gyda dalenni aur.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?