S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Richard Holt: Yr Academi Felys

Glaze ar gyfer Cacen Gofod

Amser: 30 munud

Offer:

  • Sosban canolig
  • Whisg
  • Rhidyll
  • Cymysgydd llaw
  • Jygiau pyrex
  • Raciau gwyn
  • Papur pobi
  • Cling film
  • Spatiwla

Cynwhwysion ar gyfer y glaze:

  • 195g o ddŵr
  • 300g o siwgr
  • 300g o glwcos
  • 215g o laeth tewychedig
  • 25g o ddail gelatin
  • 325g o siocled gwyn

Dull:

  1. I gychwyn, rhowch y gelatin mewn dŵr rhewllyd nes yn feddal.
  2. Yna, dewch a'r dŵr, siwgr a'r glwcos i'r berw a'i ferwi am 2 funud.
  3. Ychwanegwch y gelatin a'r siocled gwyn a'i gymysgu gyda chymysgydd llaw.
  4. I orffen, ychwanegwch y llaeth tewychedig a'i roi trwy'r rhidyll.
  5. Gadewch i bopeth oeri cyn eu defnyddio.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?