Mae gwasanaethau teledu a rhaglenni ar-alw S4C yn cael eu rheoleiddio gan Ofcom, sef rheoleiddiwr cyfathrebiadau'r DU. Amlinellir y darpariaethau rheoleiddio yn Neddf Cyfathrebiadau 2003.
O dan y darpariaethau hyn, mae'n ofynnol i S4C gydymffurfio ag ystod eang o ofynion rheoleiddio a bennir mewn deddfwriaeth, a chan Ofcom hefyd. Mae gan Ofcom ystod eang o bwerau rheoleiddio a sancsiynau yn ymwneud â gwasanaethau teledu S4C.