Rhowch 700ml o laeth i dwymo gyda'r teim, winwns, deilen bae, peppercorns, saets a halen.
Dreiniwch a chadw'r hylif. Mewn sosban toddwch y menyn ag ychwanegu'r blawd i greu roux. Ychwanegwch y llaeth fesul tipyn a gorffennwch gyda nytmeg a pharmesan.
Ffriwch y dail sbigoglys heb goesyn wedyn blitsio gyda chymysgydd llaw. Ffriwch hanner winwnsyn wedi ei dorri yn fân a'r blodfresych, brocoli a'r madarch a garlleg. Ychwanegwch gyw iâr wedi coginio a ricotta. Ychwanegwch y sbigoglys yna ei wahanu yn 6 swp.
Rhowch tri talen ffres o lasagne ar waelod y ddysgl. Rhowch dameidiau o'r swp cyntaf drostynt a'i ledaenu yn ofalus. Rhowch bechamel ar ben gyda bach o gaws wedi gratio wedyn ail adrodd hyn 6 gwaith. Gorffennwch gyda mwy o gaws wedi gratio.
Rhowch ffoil ar ei ben a'i goginio am 30 munud ar 175. Hanner ffordd trwy goginio, trowch y popty fyny i 185. Gadewch iddo eistedd am 20-30 munud cyn ei weini.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).