Tostiwch y byns a'u gosod i'r naill ochr. Gratiwch y tatws a'r winwns. Golchwch mewn dŵr tan yn glir. Gwasgwch y dŵr allan.
Rhowch mewn powlen gyda'r gronnynod garlleg, winwns a'r paprica a halen a phupur, ŵy a'r blawd a cymysgwych tan fod e'n gytew weddol lac.
Twymwch olew mewn padell ffrio ac yn ofalus rhowch y cytew i mewn a'i goginio o'r naill ochr tan fod wedi ei goginio drwyddo ac yn grisp. Os oes amser ma' ddull arall sef rhoi'r cytew mewn tun wedi ei leinio gyda 'cling film' pwyswch i lawr a rhewi am awr a'i dorri mewn unrhyw siâp – triongl fel Mr Urdd wastad yn hwyl.
Ffriwch ar dymheredd isel tan fod lliw da arno ac wedyn gosod ar bapur cegin i grimpio gyda bach o halen môr.
Ffriwch y gamwn yn gyflym mewn bach o fenyn a pherlysiau os y'ch eisiau. Cadwch yn gynnes mewn ffoil ac wedyn ffriwch eich wyau.
Os am gael pinafal ffriwch yn y ru'n ffreipan a'r gamwn tan ei fod wedi carameleiddio – rhowch ar ben eich byrgyr gyda bach o tsili a paprika melys.
Rhowch fwstard ar waelod y byrgyr – gamwn wedyn yr hash brown ag ŵy neu binafal a mayo ar y byn arall. Blasus iawn!
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).