S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Caserol cig eidion Cymru gyda Guinness

Cynhwysion

  • 800g darn chuck cig eidion Cymru wedi ei dorri'n giwbiau
  • 4 lwy fwrdd flawd
  • pupur a halen
  • olew I ffrio
  • 4 sleisen o facwn – wedi ei dorri
  • 2 nionyn mawr – wedi eu sleisio
  • 3 clof garlleg, wedi ei dorri
  • 3 moron wedi eu sleisio
  • 3 ffon seleri- wedi eu torri
  • 2 lwy fwrdd piwre tomato
  • 1 tin neu botel o stowt / Guinness (neu stoc)
  • 400ml stoc eidion
  • 1 llwy de o siwgr

I'r rarebit syml;

  • 100g gaws cheddar cryf wedi gratio
  • ½ llwy de bowdr mwstard
  • 4 llwy fwrdd Guinness
  • tafelli bara wedi eu tostio.

Dull

  1. Rhowch yr blawd mewn powlen ac ychwanegu'r pupur a halen, yna rhowch yr cig I fewn a'I gymysgu.
  2. Ffrio'r cig I frownio, yna ei dynnu allan a'I roi ar blat
  3. Ffrio'r bacwn, nionod a'r garlleg I feddalu a brownio
  4. Rhoi'r cig yn ol gyda'r moron a'r seleri a ffrio am 2 funud.
  5. Ychwanegu gweddill yr cynhwysion, ei droi yn dda a'i godi i ferwi.
  6. Rhoi caead arno a mudferwi am tua 2- 2 ½ awr nes fod yr cig yn feddal a'r stiw wedi tewychu.
  7. I wneud yr 'rarebit' – cymysgu'r cynhwysion gyda'I gilydd yne ei roi ar ben yr tafelli bara wedi'i tostio, eu rhoi o dan yr gril nes yn euraidd a'u gweini gyda'r caserol a tatws wedi eu mashio.

[Addas ar gyfer Cwcer araf (slow cooker)]

Rysáit gan Elwen Roberts / Hybu Cig Cymru, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Ryseitiau Prynhawn Da

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?