S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Nwdls cig eidion a llysiau wedi ffrio

Cynhwysion

  • ½ llwy fwrdd olew – sesame / llysiau
  • 150g 5% briwgig eidion
  • 3 clof garlleg
  • 15g o sinsir ffres
  • 3 shibwns
  • 80g mange tout
  • 1 pupur gwyrdd
  • 80g brocoli
  • 1 llwy fwrdd saws soi halen isel
  • 140g nwdls wy sych
  • 1 chilli coch

Dull

  1. Paratowch y llysiau i gyd cyn cychwyn coginio, oherwydd ni fydd y pryd bwyd yn cymryd yn hir.
  2. Os oes gennych wok, grêt – os ddim yna fydd ffreipan fawr yn berffaith.
  3. Torrwch y garlleg, sinsir a shibwns (ond cadwch 1 at wedyn), torrwch y pupur gwyrdd mewn i sleisys a'r brocoli mewn i florets bach.
  4. Gadwch y mange tout fel y maent a thorrwch hanner y chilli yn fân (gan waredu'r hadau os nad ydych yn hoffi pethau sbeislyd, a chadw'r hanner arall tuag at wedyn).
  5. Coginiwch y nwdls yn ôl cyfarwyddiadau'r paced.
  6. Yn y wok neu'r ffreipan fawr, cynheswch yr olew dros wres canolog-uchel ac ychwanegwch y cig i frownio am ychydig funudau.
  7. Nesaf ychwanegwch y garlleg, sinsir, shibwns, mange tout, pupur gwyrdd a'r brocoli a tro ffrio hefo'r cig eidion am ychydig funudau.
  8. Ar ôl ychydig funudau, ychwanegwch y nwdls wedi eu draenio a chymysgwch drwyddo.
  9. Yn olaf ychwanegwch y saws soi a chymysgu drwyddo.
  10. Gweinwch yn syth, a rhannwch y pryd rhwng 2 blât.
  11. Addurnwch hefo gweddill y sbigoglys a chili wedi eu torri.

Rysaít gan Beca Lyne-Pirkis ar gyfer FFIT Cymru.

Am fwy gan FFIT Cymru, ewch i ffit.cymru

Instagram Beca: @becalynepirkis

Instagram FFIT Cymru: @ffitcymru

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?