S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cacennau tatws melys ac eog

Cynhwysion

  • 2 x 180g ffiled eog
  • ½ llwy de halen
  • ½ llwy fwrdd olew olewydd

Ar gyfer y pys:

  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • 1 winwns
  • ½ clof garlleg
  • 125ml stoc
  • 250g pys
  • ½ llwy de siwgr
  • mint ffres

Ar gyfer cacennau tatws melys:

  • 250g tatws melys
  • 30g blawd plaen
  • ½ llwy de powdr pobi
  • ½ llwy de powdr cyrri
  • ½ llwy fwrdd siwgr brown
  • 1 tsili coch
  • 2 sibols
  • dyrned coriander
  • 1 ŵy
  • 30ml llaeth
  • olew heulflodyn

Dull

  1. Ar gyfer y pys, cynheswch olew yn y sosban, ychwanegwch y winwns a sauté am rhai munudau.
  2. Ychwanegwch y garlleg, "stick", pys a siwgr.
  3. Coginiwch am 15 munud.
  4. Stwnsiwch y tatws, ychwanegwch y dail mint ac adiwch halen a phupur.
  5. Cynheswch y ffwrn i 140°c | 120°c ffan | Nwy 1.
  6. Ychwanegwch olew mewn i'r ddysgl pobi.
  7. Gosodwch yr eog mewn gyda'r croen ar waelod y ddysgl.
  8. Ychwanegwch sesnin a phobwch am 20 munud nes iddo goginio.

Ar gyfer y tatws:

  1. Gratiwch y tatws melys.
  2. Cymysgwch y blawd, powdr, pwdr cyrri, siwgr, tsilis, sibols a choriander.
  3. Ychwanegwch halen a phupur.
  4. Adiwch yr ŵy a llaeth i greu batter.
  5. Trowch yn y tatws wedi gratio.
  6. Coginiwch mewn casgliadau.
  7. Cynheswch 1cm o olew mewn ffrimpan ddofn.
  8. Dropiwch ambell lwy fwrdd o'r cymysgedd mewn i'r olew.
  9. Ffriwch ar dymheredd cymedrol am sawl munud ar bobl ochr nes mae'n euraidd.
  10. Draeniwch ar bapur cegin.
  11. Gwaenwch gyda'r eog a phys.

Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?