S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Wraps porc kofta

Cynhwysion

  • 500g briwfwyd porc
  • 2 clof garlleg
  • 1 llwy de oregano
  • 2 lwy de cwmin
  • 1 llwy de halen
  • 1 lemwn
  • 1 cwpan iogwrt naturiol
  • 1 llwy de mint
  • 1 llwy de olew olewydd
  • bara pitta
  • sbigoglys
  • tomatos
  • ciwcymbr

Dull

  1. Mewn bowlen fawr, cyfunwch y porc, garlleg, oregano, cwmin, halen a phupur. Yna gratiwch croen y lemwn ac ychwanegwch.
  2. Cymysgwch yn dda.
  3. Mewn bowlen fach, cyfunwch yr iogwrt, mint a 1 llwy de olew olewydd a rhowch i un ochr.
  4. Cymerwch lawn dwrn o'r porc a gosodwch ar skewer i ffurfio siâp selsig. Wnewch hyn sawl gwaith. Dylai fod digon o gynnwys i wneud 8.
  5. Cynheswch ffrimpan dros dymheredd cymedrol a ffriwch y koftas yn ofalus mewn olew nes maen nhw wedi coginio drwyddo.
  6. Gwaenwch gyda wraps, salad ac iogwrt.

Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Instagram: @lisafearncooks

Twitter: @lisaannefearn

Ryseitiau Prynhawn Da

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?