Mae Cymru yn parhau i fod yn obeithiol bydd Taulupe Faletau yn holliach ar gyfer Cyfres Under Armour yr Hydref.
Dioddefodd Rhif 8 y Lllewod anaf yng ngêm agoriadol Caerfaddon o dymor Uwch Gynghrair Aviva yn Northampton Saints.
Datgelodd sgan, bydd yr anaf yn golygu na fydd yn gallu chwarae rygbi am rhwng chwech ac wyth wythnos, ac na fydd felly ar gael ar gyfer dwy rownd agoriadol Cwpan Her Ewrop.
Ond disgwylir bydd y blaenwr 25-mlwydd- oed, sydd wedi chwarae 61 o'r 67 gêm brawf ddiwethaf dros Gymru, yn dychwelyd i ffitrwydd mewn pryd ar gyfer y Gyfres sy'n cychwyn ar y 5ed o Dachwedd yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Principality.
Yna bydd Cymru'n wynebu'r Ariannin, a roddodd gêm dda i bencampwyr y byd Seland Newydd yn Hamilton y penwythnos diwethaf. Llwyddodd y Pumas, sydd newydd drechu De Affrica 26-24, roi ysgytwad i'r Crysau Duon gyda chais gan Santiago Cordero o fewn tri munud cynta'r gêm.
A dim ond dau bwynt 24-22 oedd rhwng y ddau dim wedi 50 munud ar ôl cic gywrain gan Nicolas Sanchez, fodd bynnag, newidiodd y Crysau Duon gêr, ac roedd rali hwyr gan y tîm cartref yn ddigon i selio buddugoliaeth bendant iddyn nhw.
Bydd Cymru hefyd yn wynebu Japan ar Dachwedd 19eg gan ddodd â'r Gyfres i ben yn erbyn y Springboks ar 26ain Tachwedd. Roedd De Affrica ar y blaen yn erbyn y Wallabies yn Brisbane gyda dau gais cynnar gan Warren Whiteley a Johan Goosen cyn ildio 23-17 yn y pendraw.