Mae asgellwr Cymru Tom James wedi rhoi hwb enfawr i'r Gleision drwy arwyddo cytundeb newydd ym Mharc yr Arfau BT Sport.
Mae'r chwaraewr dawnus wedi arwyddo cytundeb hir-dymor gyda'r Rhanbarth ar ol cychwyn addawol iawn i'r tymor. Dychwelodd James i Gymru wedi dau dymor gydag Exeter Chiefs, ac yn dilyn ei lwyddiant diweddar gyda'i Ranbarth mae wedi cael ei alw nol i'r tim cenedlaethol ar ol cyfnod o chwe blynedd.
Dychwelodd y chwaraewr o Ferthyr Tudful i XV Warren Gatland yn ystod tymor d'wethaf pencampwriaeth y 6 Gwlad yn y gem gyfartal honno yn erbyn Iwerddon, ac roedd yn aelod o'r tim fu'n fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban wythnos yn ddiweddarach. Aeth James ar daith i Seland Newydd dros yr Haf cyn dychwelyd adre a pharhau i greu argraff ar ddechrau'r tymor newydd.
Mae eisioes wedi croesi am dri chais y tymor hwn ac ef gafodd ei enwi fel chwarewr gorau'r gem wrth i'r Gleision drechu Glasgow Warriors ym Mharc yr Arfau BT Sport nos Wener d'wethaf. Mae James wedi sgorio 51 o geisiau i Ranbarth y Brifddinas, ac mae'n awyddus i ychwanegu ar y sgor yma.
Dyweodd James: "Cyn gynted ag y dois i nol o daith Cymru yn Seland Newydd , a dechreuodd fy Asiant gynnal trafodaethau gyda Gleision Caerdydd, roeddwn i'n hynod awyddus i arwyddo'r cytundeb.
"Gadewais yn y lle cyntaf er mwyn profi fy ngallu mewn amgylchfyd wahanol ac er mwyn gwella fel chwaraewr. Roeddwn i'n hapus iawn i ddod nol, yn fy nhyb i, fel gwell chwaraewr. Dwi wedi cael fy mhelsio'n fawr gyda'r broses a doeddwn i ddim yn gallu aros i gael cynnig y cytundeb newydd.
"Rydym ar y trywydd iawn ac yn adeiladu rhywbeth pwysig yma. Dyma'r garfan gryfaf ers i ni lwyddo i gyrraedd rowndiau rhagbrofol Cwpan Ewrop ac ennill y Cwpan Her, a dwi'n awyddus iawn i chwarae fy rhan."
Bydd James yn teithio gyda'r Gleision i'r Eidal ddydd Sadwrn er mwyn wynebu Zebre a cheisio cynnal eu safon di-guro'r tymor hwn. Ac mae prif hyfforddwr y Gleision Danny Wilson yn edrych 'mlaen i wylio ei ddewin yn rhwygo amddiffyn ei wrthwynebyr am flynyddoedd lawer i ddod.
Dywedodd: "Mae Tom yn chwraewyr gwych ac wedi arddangos ei wir ddoniau yn ystod wythnos agoriadol y tymor.
"Mae'n chwim ac yn bwerus, yn amddiffyn yn effeithiol ac mae ganddo sgiliau sylfaenol cadarn. Mae'n chwaraewr allweddol i ni a bydd yn aelod gwerthfawr o'r tim 'da ni'n ei ddatblygu yma.
"Rwyf wrth fy modd i ni lwyddo i fachu Cymro sy'n chwarae ar ei orau, a'i fod wedi arwyddo cytundeb newydd hir-dymor, ac yn mawr obeithio y gwelwn ni sawl perfformiad ardderchog arall ganddo cyn diwedd y tymor hwn."