Dros y penwythnos diwethaf, dim ond jest cael buddugoliaeth 12-10 yn erbyn y Scarlets yn Sain Helen oedd hanes y Gweilch tra bu'r Dreigiau'n fwy llwyddiannus yn ennill 22-12 yn erbyn y Gleision yn Ystrad Mynach.
Croesodd y Gweilch am ddau gais er mwyn aros ar y blaen yn erbyn tîm llawn talent rhyngwladol y Scarlets.
Roedd y Scarlets ar y blaen wedi cic gosb gywrain o droed Jodie Evans cyn i Kerin Lake groesi am gais cynta'r gêm yn y gornel. Bu raid i Lake adael y cae wedi iddi dderbyn cyfergyd o ganlyniad i'w hymdrechion.
Yna, aeth y Scarlets yn eu blaenau i greu tipyn o sioe er mwyn rhoi'r tîm cartref o dan bwysau. Croesodd Jess Kavanagh-Williams y llinell gais a phan ychwanegodd Jodie Evans y pwyntiau ychwanegol, roedd yr ymwelwyr wedi adennill y blaen gyda mantais 10-5. Gyda diffyg disgyblaeth yn golygu bod y Scarlets wedi colli chwarewraig, sgoriodd y Gweilch wrth i'w bachwr Carys Phillips groesi am gais, a phan ychwanegodd Wilkins y trosiad, roedd y Gweilch yn gallu mynd at yr egwyl gyda sgor, 12-10. Cafwyd ymdrech enfawr gan y ddau dim yn ystod yr ail hanner, ond gydag amddiffyn cadarn ar y ddwy ochor, ni llwyddod y naill dim na'r llall greu unrhyw argraff ar y sgorfwrdd, a'r Gweilch aeth a'r fuddugoliaeth.
Syfrdanwyd y Dreigiau pan rasiodd Raf Taylor yn erbyn llif y chwarae yn gynnar yn ystod eu gem, ond llwyddon nhw i adennill eu rheolaeth yn narby Dwyrain Cymru. Tarodd y Dreigiau 'nôl gyda chais gan Gemma Rowland, a drosodd ei chais ei hunan i roi mantais 7-5 i'r Dreigiau. Yna sgoriodd y Gleision gais - Claire Morgan dorrodd drwy amddiffyn y Dreigiau ar ôl chwarae adeiladol da. Trosodd Rhiannon Parker y cais i roi mantais 12-7 i'r Gleision ar yr hanner.
Dechreuodd yr ail hanner gyda sgrym grymus gan y Dreigiau, ond ni wobrwywyd ymdrech y blaenwyr tan hanner awr cyn diwedd y gem. Yn dilyn llinell ar ochr dde'r cae, cafodd y bêl ei bwydo i'r cefnwyr er mwyn i Amberley Ruck greu eiliad hudol unwaith eto mewn gêm ranbarthol drwy basio'r bêl dros ei phen er mwyn caniatau i Charlie Murray redeg 40 metr at y llinell gais i lefelu'r sgôr. Cafodd blaenwyr y Dreigiau eu gwobrwyo am eu gwaith caled yn y chwarae gosod gyda chais gan eu blaenasgellwr Sarah Harper, ac roedd y Dreigiau ar y blaen 17-12. Roedd y medddiant yn reit gyfartal yn ystod deng munud nesa'r gêm gyda'r ddau dim yn cael cyfleoedd i sgorio. Sicrhaodd y Dreigiau'r fuddugoliaeth a phwynt bonws pan fachodd Murray, sydd wedi bod ar dan yn ddiweddar, ei hail gais o'r prynhawn i roi buddugoliaeth 22-12 i'r Dreigiau.