Mae'r Scarlets yn awyddus i anfon neges at eu gwrthwynebywr ym Mhencapmwriaeth Guinness PRO12 drwy fachu buddugoliaeth yn erbyn y tim sydd ar frig y gynghrair, Leinster ym Mharc y Scarlets.
Mae bois Wayne Pivac eisoes wedi trechu'r Glasgow Warriors a'r pencampwyr Connacht yng Ngorllewin Cymru ac wedi ennill eu pum gem dd'wethaf. Ond Leinster, tim sydd tri phwynt yn glir ar frig y PRO12 yw eu gwrthwynebwyr, ac mae nhw hefyd wedi ennill eu chwe gêm ddiwethaf.
Ond byddant heb nifer o chwaraewyr rheng flaen rhyngwladol Gwyddelig ar gyfer eu taith i Gymru. Mae'r Scarlets hefyd yn gorfod cyfaddawdu, gyda chwech o'u chwaraewr gorau yng ngharfan Cymru sy'n herio De Affrica ddydd Sadwrn.
Dim ond naw pwynt sy'n gwahanu'r saith tim sydd ar y brig a byddai buddugoliaeth i'r Scarlets yn ei gwneud yn fwy clos byth. Glasgow ddioddefodd grasfa ganddynt yn fwyaf diweddar gyda cheisiau gan Will Boyde, Aaron Shingler a Jonathan Evans yn sicrhau buddugoliaeth 27-3 i'r Scarlets.
Mae'r prop pen-rhydd Wyn Jones wedi bod yn allweddol wrth i'r rhanbarth ddringo tabl y cynghrair ar ôl iddynt gychwyn eu hymgyrch gyda phedair buddugoliaeth yn olynol. Ac mae'n gobeithio hawlio buddugoliaeth arall dros Leinster er mwyn cadw'r momentwm llwyddiannus.
Dywedodd: "Rydym wedi edrych ar y tîm yn ofalus. Maen nhw ar frig y tabl, ond mae gennym record da yn ddiweddar. Rydym wedi ennill ein pum gêm ddiwethaf a byddai buddugoliaeth yn erbyn Leinster yn ein rhoi yn ymysg y pedwar sydd ar y brig – dyna'n bendant yw ein nôd.
"Nid oes llawer o bwyntiau'n gwahanu'r wyth uchaf yn nhabl y bencampwriaeth ar hyn o bryd. Gallai un fuddugoliaeth yn erbyn Leinster ein rhoi yn y pedwar uchaf. Mae'n gêm enfawr i ni. Rydym yn awyddus i gynnal y momentwm buddugol, ac mae'r ddwy gêm nesaf yn allweddol i ni. "