Cynhaliodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru Martyn Phillips ail gyfarfod Bwrdd Ieuenctid URC y penwythnos diwethaf – yn Stadiwm Principality cyn Ddydd y Farn IV.
Clywodd y bwrdd, sy'n cynnwys unigolion dan-21-mlwydd-oed o bob cwr o Gymru, gyflwyniadau gan bennaeth cyfranogiad yr Undeb, Ryan Jones, rheolwr polisi a gonestrwydd Jeremy Rogers a rheolwr rygbi cenedlaethol merched Cymru, Caroline Spanton. Roedd Prif Swyddog Gweithredol Pro Rygbi Cymru Mark Davies hefyd yn bresennol i glywed yr ystod eang o safbwyntiau drafodwyd ac i ateb cwestiynau.
Datgelodd Jones fanylion ei gynllun strategol ar gyfer cynyddu cyfranogiad o'r gêm yng Nghymru, adroddodd Rogers ar fesurau gwrth gyffuriau URC a'r her sy'n deillio o hynny a siaradodd Spanton am lawnsiad llwyddiannus diweddar clystyrau rygbi newydd i ferched.
"Trafodon ni nifer o gwestiynau pwysig, am gyfranogi, am gêm y Merched a'r derbyniad i brosiect clwstwr rygbi Merched yn diweddar," meddai aelod o'r bwrdd Calum Haggett, sydd o Tonyrefal ac yn gyn-gapten dan 18 Cymru.
"Fe siarado' ni am y pontio rhwng rygbi ieuenctid a rygbi oedolion, a sut y gallwn gael pobl i barhau i chwarae'r gêm ar ôl iddynt ddatblygu o gêm y ieuenctid, a sut i wella'r sustem yma o esblygiad yn y clybiau."
Mynegodd Hagget ac aelod arall o'r bwrdd sy'n dod o Dreharris, Jo Williams, pa mor bositif fu eu penodiadau i'r Bwrdd Ieuenctid yn eu cymunedau eu hunain, ac mae'r ddau yn teimlo y gallant wneud llawer i greu dyfodol gwell i rygbi yng Nghymru.
Dywedodd Williams, sy'n chwaraewr 18-mlwydd-oed i'r Dreigiau: "Mae gennym ddylanwad mor gadarnhaol ar y bobl o'n cwmpas. Yn fy nghymuned i er enghraifft, mae pawb yn awyddus i wybod beth fyddwn ni'n ei wneud, sut fyddwn i'n ceisio cynyddu cyfranogiad a sut bydd yr hyn 'da ni'n ei drafod yn effeithio ar bobl ifanc led-led Cymru.
"Mae rhywun yn sylweddoli bod pawb am siarad gyda chi gan gynnig syniadau ac awgrymiadau. Mae 'na deimlad gwirioneddol bod yna bethau cadarnhaol gellir eu gwneud mewn cyfarfodydd bwrdd fel hyn," ychwanegodd Haggett.
"… Ac mae cyfle gennym i siarad yn uniongyrchol gydag uwch swyddogion yr Undeb – mae'n berffaith."