Er iddyn nhw fod ar ei hôl hi, sicrhaodd tim Ysgolion Cymru Dan 16 fuddugoliaeth dros Loegr dan 16 23-22 yng Nghanolfan Caerffili ar gyfer Rhagoriaeth Chwaraeon, Ystrad Mynach.
Roedd ceisiau gan y capten a'r blaenasgellwr Gethin Davies a'r maswr Luke Scully, yn ogystal ag 13 pwynt o droed Scully yn ddigon i ennill y gem. O flaen torf a oedd yn llenwi'r eisteddle, aeth Lloegr ar y blaen wedi prin pedwar munud diolch i gic gosb Coalan Englefield. Unionodd Scully y sgôr bum munud yn ddiweddarach, gyda'r cyntaf o'i dair cic gosb llwyddiannus, cyn i Loegr unwaith eto achub y blaen diolch i gais Oliver Lawrence, a throsiad Englefield.
Cic gosb lwyddiannus arall oedd ateb Scully, ond roedd Lloegr yn cael hwyl arni, a sgoriodd Morgan Passman gais iddyn nhw gan gynyddu'r sgôr i 15-6 i'r ymwelwyr.
Fodd bynnag, os mai Lloegr oedd wedi hawlio 25 munud cynta'r hanner, roedd y deg munud a oedd yn weddill cyn yr egwyl, yn sicr yn perthyn i Gymru. Llwyddodd y capten Davies, sy'n chwarae i'r Scarlets, Crymych ac i Ysgol y Preseli i groesi am gais cyntaf Cymru ar ôl i Scully gicio'r bêl ymlaen. Ar ôl i Scully drosi, canfu'r Dreigiau ifanc eu hunain ar y blaen pan drosodd chwaraewr Ysgol Llangatwg, y Gweilch a maswr Castell Nedd Athletig ei gais ei hunan, dau funud cyn yr egwyl.
Wedi trydedd cic gosb lwyddiannus, 11 munud i mewn i'r ail hanner, roedd Cymru wyth pwynt yn glir o'u gwrthwynebwyr.Er i ganolwr Lloegr, Lawrence daflu ei hunan dros y llinell am ei ail gais, ac wedi trosiad Kieran Wilkinson, llwyddodd Cymru i ddal eu gafael ar fuddugoliaeth nodedig.
Dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Robert Sidoli, "Yn amddiffynnol dwi'n meddwl ein bod yn dangos digon o gymeriad, ac er ein bod wedi gwneud rhai camgymeriadau yn yr hanner cyntaf, roedd digon o hyder yn y garfan i barhau ac ennill.
"Roedd y cae mewn cyflwr ardderchog ar gyfer gem fywiog, a rhoddodd y dorf hwb i'r bechgyn, ond yr hyn greodd yr argraff fwyaf arnaf oedd penderfyniad a chymeriad y bechgyn wrth amddiffyn yn ystod yr ail hanner. Roedd eu taclo'n hyderus a diflino.
"Mae eu hagwedd yn rhagorol a'r profiad y byddant wedi'i fagu dros yr wythnosau diwethaf, yn gyntaf gyda'r gystadleuaeth ranbarthol, ac yna wrth rannu eu gwaith ysgol gyda theithio i hyfforddi gyda Chymru, yn werthfawr iawn iddynt ar gyfer y dyfodol.
"Mae'n fuddugoliaeth i ymfalchïo ynddi ac yn atgof fydd ganddynt ar gôf a chadw am weddill eu bywydau."
Sgorwyr Cymru:Ceisiau: G Davies, ScullyTrosiadau: Scully (2)Ciciau Cosb: Scully (3)
LloegrCeisiau: Lawrence (2), PassmanTrosiadau: Englefield, WilkinsonCiciau Cosb: Englefield