Yn ol prif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac, bydd mis agoriadol y Guinness Pro 12 yn allweddoll i lwyddiant ei dim erbyn diwedd y tymor.
Mae'r tymor yn y bencampwriaeth yn cychwyn gyda gem ar Barc y Scarlets yn erbyn Munster ar Fedi'r 3ydd cyn teithio i Gaeredin ac Ulster gan wynebu'r pencampwyr Connaght adre ar ddiwedd y mis.Bydd gem ola'r tymor yn gem gartre i'r Scarlets hefyd.
"Mae'n hollbwysig i ddechrau'r tymor yn dda os ydych chi am gyrraedd y gemau ail-gyfle a chyn i ni fentro i Ewrop bydd un gem ddarbi hefyd yn erbyn y Dreigiau. Ac ar ol rowndiau agoriadol Ewrop bydd y Gleision yn ein disgwyl yn y Pro 12 – tim oedd yn drech na ni'r tymor diwetha. A byddwn ni'n cwrdd a nhw eto wrth ddod at ddiwedd y tymor arferol…gem fydd yn bwysig i'r ddau dim heb son am yr hyn fydd yn dibynnu ar y canlyniad – mae nhw'n gemau mawr doed a ddelo."
Mae Pivac yn disgwyl y bydd e'n dymor agos iawn unwaith eto gyda nifer o dimau'n cystadlu am y safleodd uchaf yn y pendraw.