Bydd Cymru'n chwilio am ddiweddglo gwell wrth iddyn nhw chwarae yn rownd derfynol Cyfres Saith Bob Ochor y Byd HSBC y penwythnos hwn yn Llundain, ar ôl i Portiwgal chwalu eu gobeithion o fachu unrhyw dlysau ym Mharis drwy ennil ffeinal y Tarian.
Wedi bod ar ei hôl hi 7 – 14, brwydrodd Cymru nôl er mwyn unioni'r sgôr 14-14 wedi i Ethan Davies groesi'r llinell er mwyn trosi ei gais ei hunan.
Wedi iddyn nhw fynd ar y blaen unwaith eto, Portugal oedd y ffefrynau i ennill, cyn i Luke Morgan groesi am gais wedi dwylo medrus iawn. ' Ond 'doedd lwc ddim yn perthyn i dim Gymru wedi hynny pan fethodd Angus O'Brien y trosiad yn ogystal ag ymgais am gic gosb wrth i'r gem fynd i amser ychwanegol.
Aeth tlws y Tarian i Portugal wedi i Aderito Esteves basio'r bêl i Duarte Moreira er mwyn iddo groesi am y cais buddugol, gan anfon Cymru i Llundain gyda dim ond un buddugoliaeth o'u chwe gem ar Stade Jean Bouin.
Disgleiriodd un seren o Gymru yn y bencampwriaeth, sef yr asgellwr Luke Morgan, wrth iddo greu record am sgorio ceisiau i Gymru yn ystod Cyfres y Byd. Croesodd am ei gais rhif 61 yn erbyn Lloegr yn rownd pedwar olaf y Powlen, er mwyn achub y blaen ar Tal Selley.
Roedd yr ornest yn erbyn Lloegr yn dilyn ur un patrwm o chwarae ac anlwc i Gymru wrth iddyn nhw frwydro 'nôl i'r gem ac yna cael eu trechu wedi'i gyfres o benderfyniadau gwael chwalu'u gobeithion am fuddugoliaeth yn y pendraw.
Aeth Cymru 'lawr i gystadleuaeth y Darian ar ôl colli yn erbyn Lloegr 17-12, a daeth buddugoliaeth 17-12 o'r diwedd iddyn nhw yn erbyn Canada pan sgoriodd Lloyd Lewis ddwywaith a'r capten, Luke Treharne yn cael un. Ond dyna oedd y diwedd i Gymru a siom enfawr iddynt wrth i Portiwgal gipio'r Darian.
Bydd Cymru'n teithio i Lundain y penwythnos hwn ar gyfer degfed rownd, a'r rownd olaf yng Nghyfres Saith Bob Ochor y Byd HSBC, fydd yn cael ei chwarae yn Twickenham ar 21ain-22ain Mai. Fiji, Awstralia a Lloegr fydd eu gwrthwynebyr yno.