Bydd Nigel Owens yn ymestyn ei record rhyngwladol yr haf yma wrth iddo ddyfarnu gem brawf yn ystod Pencampwriaeth hemisffer y de ac yna'r drydedd gem brawf rhwng Seland Newydd ac Awstralia am gwpan Bledisloe. Jonathan Kaplan o Dde Affrica oedd yn dal y record am gemau rhynglwadol gan ddyfarnwyr hyd at fis diwetha pan ddyfarnodd y Cymro 44 blwydd oed, y gem rhwng Fiji a Tonga yn Suva.
Honno oedd gem rhif 71 i Owens ddechreuodd ei yrfa dair blynedd ar ddeg yn ol mewn gem rhwng Portiwgal a Georgia.Ei dasg nesa ar Fedi'r 10fed bydd teithio i Awstralia ar gyfer y gem rhwng y Wallabies a De Affrica yn Stadiwm Suncorp, Brisbane. Dyna fydd ei drydedd gem ar ddeg yn y Bencampwriaeth o gymharu ag unarbymtheg yn y Chwe Gwlad.
Ar ol hynny, trydydd cymal y Cwpan Bledisloe sydd o'i flaen wrth i'r ddau dim chwaraeodd yn erbyn eu gilydd yng ngem Derfynol Cwpan y Byd ddod yn benben unwaith yn rhagor yn Eden Park ar Hydref yr 22ain. Owens wrth gwrs oedd yn y canol ar gyfer Ffeinal y Cwpan Byd yn Twickenham llynedd a fe bydd un o blith naw dyfarnwr yn y Bencampwriaeth eleni.
Cymro arall, Anthony Buchanan sy'n cadeirio Pwyllgor Dewis y Dyfarnwyr Rhyngwladol ac yn dilyn ei gyfarfod cyntaf yn y gadair dywedodd, "Nawr yw'r amser i ddatblygu talent newydd wrth i ni ddechrau paratoi at y Cwpan Byd nesaf yn Japan yn 2019."
Mae'n siwr y bydd profiad Nigel Owens o fudd mawr i'r dyfarnwyr ifanc wrth iddyn nhw anelu at efelychu safonnau'r Cymro poblogaidd.