Mae'r niferoedd o bobl sydd mewn trafferthion ariannol neu'n ffeindio'i hunain heb gartref wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys teuluoedd a phobl ifanc. Gall rhai o'r mudiadau yma rhoi cefnogaeth i bobl yn y sefyllfa yna.
Mudiad sy'n ymgyrchu dros wella darpariaeth tai yng Nghymru, ond sydd hefyd yn cynnig help ymarferol os ydych mewn trafferthion, gyda adnoddau cynhwysfawr ar y wefan.
08000 495 495
Elusen sydd gyda sawl prosiect yn cefnogi pobl di-gartref yng Nghymru. Mae'r wefan gyda manylion rhain yn eich ardal.
Elusen sy'n rhoi cefnogaeth i bobl ifanc a merched di-gartref. Wedi ei leoli yn Ne Ddwyrain Cymru, mae ganddynt swyddfeydd a phrosiectau yng Nghaerdydd, y Barry, Penybont-ar-Ogwr, Casnewydd, Caerffili a Mynwy.
Elusen sy'n cynnig cefnogaeth ddwys a chyflaeon i bobl ifanc, yn cynnwys rhai digartref, yng Ngogledd Cymru. Mae ganddynt ystod o brosiectau sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau i fyw'n annibynnol.
Gwasanaeth sy'n gallu rhoi cefnogaeth a chyngor i chi am unrhyw faterion ariannol sy'n eich poeni pan yn byw gyda salwch meddwl.
Llinell wybodaeth a gwasanaeth dwyieithog arlein am ddim ar unrhyw bwnc os ydych rhwng 0 a 25.
Gyda dros 3,000 o swyddfeydd drwy'r DU, gall Cyngor ar Bopeth helpu gyda materion cyfreithiol, gwaith, ariannol a mwy, a hynny am ddim. Gallwch gael hyd i'ch gwasanaeth lleol trwy'r wefan neu'r llyfr ffôn. Gwybodaeth ddefnyddiol iawn ar bynciau gwahanol ar y wefan hefyd.
Gwasanaethau gan gyn-filwyr i gyn-filwyr, mae Change Step yn cynnig mentora a chymorth i gael gafael ar wasanaethau perthnasol - gan gynnwys cefnogaeth gydag iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, cyfiawnder troseddol a ffeindio lle i fyw.
0300 777 2259
Mae Cymorth Cymru yn cysylltu holl ddarparwyr cefnogaeth a gwasanaethau i'r digartref, yn help pobl i fyw bywydau annibynnol yn eu cymuned.