Mae diabetes yn gyflwr cronig sydd yn cael ei achosi oherwydd bod y corff methu torri lawr siwgr, neu glwcos, sydd yn y gwaed. Mae'r broses yma fel arfer yn digwydd oherwydd yr hormon inswlin, ac mae'r cyflwr yn golygu fod y corff ddim yn cynhyrchu digon o'r hormon yma, os o gwbl.
Ceir dau brif fath: mae diabetes math 1 yn effeithio tua 15% o'r sawl sydd gyda'r cyflwr, fel arfer pobl o dan 40 a gyda hanes o'r cyflwr yn y teulu. Mae diabetes math 2 llawer mwy cyffredin, yn tueddu i effeithio pobl dros 40, ac yn aml yn cael ei gysylltu gyda bod gorbwysa.
Mae'r ddau fath ar gynnydd trwy'r byd. Yng Nghymru, mae tua 5% o'r boblogaeth gyda'r broblem. Mae'r dolenni yma'n rhoi mwy o wybodaeth a manylion cefnogaeth i'r cyflwr.
Gwybodaeth ymarferol a chefnogol am ddiabetes, gan gynnwys manylion grwpiau lleol ar draws Cymru. Llinell gymorth ar gyfer pobl sydd yn byw gyda'r cyflwr yn ogystal a'u teuluoedd, ffrindiau neu gofalwyr.
0345 123 2399
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.