Gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd rhywiol, gan gynnwys manylion ble i gael help lleol.
Gwybodaeth trylwyr wedi noddi gan Gwasanaeth Iechyd Cymru am glefydau a drosglwyddir yn rhywiol, yn cynnwys ble fedrwch fynd i gael eich testio unai'n lleol, neu hyd yn oed trwy'r post. Gwybodaeth hefyd am ddarpariaeth PrEP.
Elusen fawr sy'n ffocysu ar iechyd rhywiol, yn enwedig HIV, os ydych yn byw gyda'r cyflwr. Manylion am wasanaethau ac ymgyrchoedd lleol.
0808 802 1221
Mae The Mix yn wefan a chymuned ar-lein ardderchog i unrhyw un o dan 25. Mae'n edrych ar ystod eang o bynciau, popeth o gyngor ar gyffuriau, alcohol a dibyniaeth i iechyd rhywiol, neu beth i wneud os yn beichiogi'n annisgwyl neu os mae perthynas eich rhieni'n chwalu. Cyngor hefyd os ydych yn colli rhywun agos. Straeon, byrddau neges diddorol a llawer mwy, yn cynnwys cyfeirio ar linellau cymorth addas.
0808 808 4994
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.