Yn llythrennol, y menopos yw cyfnod y mislif olaf, er bod y rhan fwyaf o bobl yn meddwl am y menopos fel yr amser bywyd sy'n arwain at, ac ar ôl, yr un olaf. Yn ystod yr amser hwn, daw'r mislif yn llai aml, ond gall gymryd sawl blwyddyn i fenyw fynd trwy'r menopos yn llwyr.
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.