Mae'r sefyllfa bresennol gyda phandemig COVID 19 yn dod â mater unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol i'r amlwg, wrth i bobl o bob oed fynegi pryderon am hunan-ynysu. Mae rhai pobl, yn cynnwys oedolion hŷn a'r rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol yn gwynebu'r posibilrwydd o hunan-ynysu am fisoedd.
Byddwn yn ychwanegu at y deunydd yma mewn wythnosau i ddod, ond yn y cyfamser mae manylion rhai grwpiau ac elusennau all helpu, a'r cyngor syml clir: gwnewch y pethau bychain, helpwch eraill a cysylltwch.
Ceir cyngor yma gan Dr Deborah Morgan, sy'n gweithio yng Nghanolfan Heneiddio Aroloesol, Prifysgol Abertawe, ac yn arbenigwraig ar materion o unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol. Mae ei hymchwil yn edrych ar y gwahaniaeth rhwng unigrwydd dros dro ac unigrwydd tymor hir, ac mae'n cynnig cyngor: gwnewch y pethau bychain, helpwch eraill, cysylltwch.
Un o'r prif elusennau yna i'ch cefnogi i heneiddio'n dda. Gyda grwpiau a gweithgareddau ar draws Cymru, cysylltwch unai drwy'r llinell gymorth neu'r gwefan, sydd gydag ystod o wybodaeth defnyddiol am ddim.
0300 303 44 98
Elusen sy'n rhoi cefnogaeth a gwybodaeth am bob math o or-bryder.
03444 775 774
Gwefan cynhwysfawr yn y Gymraeg sy'n cynnig erthyglau, dolenni a adnoddau cefnogol i bobl sy'n byw gyda problemau iechyd meddwl.
Gwasanaeth dros y ffôn sydd wedi ei leoli yng Nghymru, un sy'n barod i wrando ar bobl gyda phroblemau iselder neu broblemau iechyd meddwl o unrhyw fath. Ffoniwch wasanaeth C.A.L.L. neu ymwelwch â'r gwefan am fwy o wybodaeth.
0800 132 737