Yn y DU, bydd tua 1 o bob 8 dyn yn cael canser y prostad yn ystod eu hoes, gan effeithio ar ddynion dros 50 oed yn bennaf, felly mae eich risg yn cynyddu gydag oedran. Mae'r risg hyd yn oed yn uwch ar gyfer dynion du a dynion sydd â hanes teuluol o ganser y prostad. Hwn yw'r canser mwyaf cyffredin i ddynion. Mwy o wybodaeth a chyngor ar gael trwy'r mudiadau yma.
Elusen iechyd yw Prostate Cymru sy'n cefnogi dynion â chanser y prostad, yn cynnwys rhai anfaelan. Maent yn codi ymwybyddiaeth, a cefnogi ymchwil a rhoi help ymarferol.
Linell i nyrs: 08000 470 200
Prif elusen canser y prostad yn y DU. Llinell gymorth gyda nyrsys arbenigol a gwybdoaeth cynhwysfawr am y cyflwr ar eu gwefan.
0800 074 8383
Mae Macmillan Cancer Support yn brwydro i wella ansawdd bywyd y sawl sy'n byw gyda chanser. Gwybodaeth glir ar y wefan, yn cynnwys arbenigedd Cancer BACKUP, sydd wedi uno a Macmillan yn ddiweddar. Cefnogaeth hefyd trwy'r llinell gymorth, yn ogystal â'r 2000 o nyrsys hyfforddedig sy'n arbenigo mewn canser.
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.