Mae miloedd o bobl yn gofalu am eraill ar draws Cymru. Ceir manylion mudiadau ac elusennau i gefnogi nhw yma.
Mudiad sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth i ofalwyr yng Nghymru, ac yn ymgyrchu am eu hawliau hefyd. Cysylltwch â nhw am unrhyw agwedd o edrych ar ôl eraill, o ble i gael help ariannol i'ch gwasanaethau lleol.
0808 808 7777
Mudiad sy'n cefnogi gofalwyr hen ac ifanc yn ardal Ceredigion.
03330 143377
Ystod o gefnogaeth i ofalwyr ar draws Sir Fôn, Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir Fflint a Wrecsam.
01492 542 212
Ystod o gefnogaeth i ofalwyr yn Ne Ddwyrain Cymru.
01495 769996
Elusen sy'n edrych ar ôl buddianau aqc yn cefnogi pobl ifanc ar ystod o bynciau, o gofalu am eraill i hawliau plant neu o gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol i neu camdrin rhywiol. Gwefan cynhwysfawr.
Cefnogaeth ddwyieithog i unrhyw un, o unrhyw oedran, sydd yn edrych ar ôl person gyda dementia.
0808 808 2235
Mae Croesffyrdd Hafal yn darparu cefnogaeth ymarferol i ofalwyr di-dâl sy'n byw yng Ngheredigion, Sir Benfro a Phowys.
Powys 01874 610346
Ceredigion 01970 627966
Sir Benfro 01437 764639
Gyda dros 100 o wasanaethau ar draws Cymru, yn cynnwys rhai maethu a mabwysiadu, mae Barnado's Cymru yn asiantaeth sefydliedig sy'n edrych ar ôl buddianau plant mewn pob math o sefyllfaoedd, yn cynnwys er enghraifft pan mae plant yn gorfod edrych ar ôl eraill.