I rai pobl, mae hunan-niweidio yn ffordd o ddelio gyda phroblemau, bod hyn bob mis, yn wythnosol neu hyd yn oed yn ddyddiol. Mae trigeri i'r fath beth yn gallu codi o atgofion o bethau sydd wedi digwydd, neu os mae 'na rywbeth annisgwyl yn digwydd i chi, ac mae'n anodd delio a'r sefyllfa newydd; ar brydiau, mae hyd yn oed bywyd arferol yn teimlo fel hyn.
Mae'r mudiadau isod yn cynnig cefnogaeth a gwybodaeth bellach.
Gwefan cynhwysfawr yn y Gymraeg sy'n cynnig erthyglau, dolenni a adnoddau cefnogol i bobl sy'n byw gyda problemau iechyd meddwl.
Llinell wybodaeth a gwasanaeth dwyieithog arlein am ddim ar unrhyw bwnc os ydych rhwng 0 a 25.
Gwasanaeth dros y ffôn sydd wedi ei leoli yng Nghymru, un sy'n barod i wrando ar bobl gyda phroblemau iselder neu broblemau iechyd meddwl o unrhyw fath. Ffoniwch wasanaeth C.A.L.L. neu ymwelwch â'r gwefan am fwy o wybodaeth.
0800 132 737
Mae'r NSHN yn cynnig cefnogaeth i unigolion sy'n hunan-niweidio trwy geisio lleihau poen emosiynol a gwella ansawdd bywyd. Maent hefyd yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i deuluoedd a'r sawl sy'n gofalu am rai sy'n hunan-niwedio.
Sefydliad di-elw wedi'i leoli yng Nghymru sy'n codi ymwybyddiaeth o iselder a hunan-niwed ymhlith pobl ifanc. Maent yn cynnig gweithdai ac adnoddau, rhai yn ddwyieithog, yn ogystal â chyfeirio at ffynonellau cymorth.
Cyngor a chefnogaeth dwyieithog i unrhyw un sydd gyda problem iechyd meddwl, ond gyda gwybodaeth clir a da ar ystod o bynciau, yn cynnwys yng nghyfnod COVID-19.
Mae SANE yn rhedeg llinell gymorth genedlaethol, allan-o-oriau sy'n cynnig cefnogaeth arbenigol emosiynol i unrhyw un sy'n byw gyda salwch meddwl, yn cynnwys teuluoedd, ffrindiau neu gofalwyr. Mae'r wefan yn un cynhwysfawr yn cynnig cyngor am eich lles meddyliol. Mae'r llinell ar agor rhwng 4.30pm a 10.30pm yn ddyddiol.
0300 304 7000
Un o brif elusennau Cymru ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol a'u gofalwyr. Cefnogaeth a help o bob math, yn cynnwys grwpiau lleol ar draws Cymru.
Mae The Mix yn wefan a chymuned ar-lein ardderchog i unrhyw un o dan 25. Mae'n edrych ar ystod eang o bynciau, popeth o gyngor ar gyffuriau, alcohol a dibyniaeth i iechyd rhywiol, neu beth i wneud os yn beichiogi'n annisgwyl neu os mae perthynas eich rhieni'n chwalu. Cyngor hefyd os ydych yn colli rhywun agos. Straeon, byrddau neges diddorol a llawer mwy, yn cynnwys cyfeirio ar linellau cymorth addas.
0808 808 4994
Partneriaeth o dair elusen iechyd meddwl mwyaf blaenllaw Cymru ac ymgyrch i herio stigma o gwmpas iechyd meddwl. Mae'r wefan gyda gwybodaeth defnyddiol a diddorol ar sut i wneud hyn a chysylltiadau i Hafal, Gofal a Mind Cymru.