Daeth unigrwydd a theimlo'n ynysig yn deimladau mwy amlwg o'n bywydau bob dydd yn fwy amlwg dros y flwyddyn diwethaf. Mae pobl o bob oed yn gallu cael profiad o unigrwydd ac arwahanrwydd, ond efallai fod gwerthfawrogiad newydd o'r anawsterau a wynebai unigolion yr oedd unigrwydd ac unigedd yn realiti byw iddynt cyn y pandemig. Ceir adnoddau yma sy'n esbonio'r gwahaniaeth rhwng mathau o unigrwydd a a theimlo'n ynysig, yn ogystal â manylion pellach adnoddau cefnogol..
Gwefan cynhwysfawr yn y Gymraeg sy'n cynnig erthyglau, dolenni a adnoddau cefnogol i bobl sy'n byw gyda problemau iechyd meddwl.
Prosiect sy'n rhan o Youth Cymru a arienir gan y Canolfan Co-op i daclo unigrwydd ymysg pobl ifanc ar draws Cymru, gyda manylion prosiectau lleol.
Gwybodaeth clir gan Dr Deborah Morgan o'r Ganolfan yn esbonio'r gwahaniaeth rhwng unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, yn cynnwys cyngor ar sut i gefnogi pobl.
Adnodd clir a chefnogol i'ch helpu weithio allan beth sydd wrth wraidd eich teimladau o unigrwydd, i bob oedran.
Adnoddau defnyddiol iawn i'ch cefnogi os ydych yn hyn ac yn teimlo'n unig neu weid ynysu'n gymdeithasol.
Un o'r prif elusennau yna i'ch cefnogi i heneiddio'n dda. Gyda grwpiau a gweithgareddau ar draws Cymru, cysylltwch unai drwy'r llinell gymorth neu'r gwefan, sydd gydag ystod o wybodaeth defnyddiol am ddim.
0300 303 44 98
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru'n gwarchod ac yn hybu hawliau pobl hŷn ledled Cymru, gan graffu a dylanwadu ar amrywiaeth eang o bolisïau ac arferion i wella eu bywydau. Os oes gennych chi broblem a bod angen help a chefnogaeth arnoch, yna cysylltwch â Thîm Gwaith Achos y Comisiynydd i weld sut gall eich cynorthwyo, ond hefyd mae ystod o weithgareddau a gwybodaeth am beth sydd ar gael i'ch cefnogi i heneiddio'n dda ar draws Cymru.