S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Ffrwythlondeb

Os ydych chi'n cael problemau'n beichiogi, mae yna help a chefnogaeth ar gael yma, yn cynnwys mwy o fanylion am driniaethau fel IVF.

  • Human Fertilization and Embryology Authority

    Gwybodaeth glir a diduedd am driniaeth ffrwythlondeb, clinigau a rhoi wyau, sberm ac embryonau, i gyd am ddim. Maent yn trwyddedu, monitro ac arolygu clinigau ffrwythlondeb ac yn rhoi cyngor ar bob agwedd o ffrwythlondeb.

    www.hfea.gov.uk

  • ARC

    Antenatal Results and Choices

    Elusen cenedlaethol sy'n helpu a chefnogi rhieni a meddygon drwy'r broses sgrinio cynenedigol a'r cnalyniadau a all ddod.

    0845 077 2290

    www.arc-uk.org

  • Fertility Network UK

    Mudiad sydd yna i helpu pobl sy'n cael problemau cael plant, mae nhw hefyd gyda gwybodaeth a chyngor i bobl dros 35 sy'n ceisio cael plant.

    fertilitynetworkuk.org

  • Sefydliad Ffrythlondeb Cymru

    Mae'r Sefydliad yn cynnig ystod o wasanaethau mewn dau ganolfan yn Ne Cymru yn unig.

    Wales Fertility Institute

  • Galw IECHYD Cymru

    Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.

  • Patient.info

    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

    www.patient.info

  • Cymdeithas Maethu a Mabwysiadu Prydain

    Un o'r prif gymdeithasau sy'n edrych ar ôl bob agwedd o fabwysiadu a maethu plant, gan sicrhau fod safonau gofal uchel a'r hyfforddiant addas yn eu lle i bawb sy'n rhan o'r broses. Cyngor hefyd ar sut i gael hyd i aelodau o'r teulu. Mae ganddynt ddwy swyddfa yng Nghymru, sef yng Nghaerdydd a Rhyl.

    corambaaf.org.uk

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?