14 Mawrth 2025
Byddwn yn cynnal dau gyfarfod sector gweithredol mis Ebrill. Mae hwn yn gyfle i chi ddod i adnabod a chreu perthynas gyda staff S4C ar lefel weithredol.
Fe fydd yr un cyntaf yn cael ei gynnal ar 3 Ebrill yng Nghaernarfon, a'r ail yn cael ei gynnal ar 9 Ebrill yng Nghaerfyrddin.
Bydd cyfle i chi sgwrsio gyda staff S4C yn unigol ar ddiwedd y sesiwn. Mae croeso cynnes i bawb.
03/04/25 - Y Galeri, Caernarfon
09/04/25 - Yr Egin, Caerfyrddin
Os nad ydych wedi cadw lle yn barod ar gyfer y cyfarfod, mae dal modd gwneud drwy lenwi'r ffurflen.
Nodyn i'ch hysbysu bydd taliadau olaf y Flwyddyn Ariannol 2024/25 yn cael eu gwneud ar ddydd Iau, 27 Mawrth 2025.
I sicrhau bod y cwmnïau yn cael eu talu ar y dyddiad hwn, bydd angen i anfonebau gyrraedd yr Adran Gyllid erbyn 12.00 ar brynhawn dydd Mawrth, 25 Mawrth 2025.
Bydd taliadiau BACS cyntaf y Flwyddyn Ariannol 2025/26 yn cael eu gwneud ar ddydd Mawrth, 1 Ebrill 2025.
I sicrhau bod y cwmnïau yn cael eu talu ar y dyddiad hwn, bydd angen i anfonebau gyrraedd yr Adran Gyllid erbyn 12.00 ar brynhawn dydd Llun, 31 Mawrth 2025.
Gallwch anfon anfonebau dros e-bost at taliadau@s4c.cymru. Newid dros dro yw hwn, bydd taliadau arferol yn ailddechrau ar ddydd Llun, 7 Ebrill 2025.
31 Ionawr 2025
Mae S4C yn falch o gyhoeddi fod Llion Iwan wedi ei benodi yn Brif Swyddog Cynnwys S4C.
24 Ionawr 2025
Yn ystod y cyfarfodydd sector a gynhaliwyd yn mis Tachwedd bu'r comisiynwyr yn trafod eu gofynion diweddaraf. Gallwch weld y sleids yma ar y wefan gynhyrchu.
Gyda'r syniadau Ffeithiol, Di Sgript ac Adloniant gofynnir i chi gysylltu gyda'r comisiynydd perthnasol mewn ebost i drafod unrhyw syniadau cychwynnol. Os oes diddordeb yn y syniad fe ofynnir i chi eu cyflwyno yn ffurfiol ar Cwmwl.
Gyda'r syniadau Drama gofynnir i chi ebostio pitch y gyfres ac yn ddelfrydol enghraifft o 2 neu 3 golygfa. Edrych am gyfresi gafaelgar 'bingable' 30 munud x 5/6/8 megis One Day a Normal People.
Y dyddiad cau ar gyfer y ffenestr gomisiynu Ffeithiol, Di Sgript ac Adloniant yw 31/1/25 a Drama ar y 28/2/25.
Byddwch yn cael ymateb i'r syniadau Ffeithiol, Di Sgript ac Adloniant erbyn 21/2/25 a'r syniadau Drama ar 11/4/25.
23 Ionawr 2025
Gwahoddiad i dendr: cerddoriaeth (dyddiad cau hanner dydd 24/1/25)
Yn dilyn trafodaeth rhwng PRS for Music ac S4C bore 'ma, dylech gyllidebu hawliau cerddoriaeth ar sail cyfraddau'r cytundeb IPC (h.y. Deyrnas Unedig yn unig) os gwelwch yn dda. Bydd sgyrsiau pellach efo'r cynhyrchydd llwyddiannus am hawliau cerddoriaeth byd eang yn dilyn, ond am y tro, dim ond costau clirio DU y dylid eu nodi.
Yn ystod y cyfarfodydd sector a gynhaliwyd yn Mis Tachwedd bu'r comisiynwyr yn trafod eu gofynion diweddaraf.
Mae'r rhestr golau gwyrdd sydd yn cynnwys comisiynau diweddaraf S4C bellach ar y wefan.
5 Rhagfyr 2024
Gwahoddir ceisiadau gan Gwmnïau i gynhyrchu arlwy cerddoriaeth, gyda'r bwriad o ddarlledu o Wanwyn 2025.
Mae gan y fformat yma rôl bwysig yn narpariaeth y sianel a bydd y cwmni buddugol yn cynnig syniadau am becyn sydd yn uchelgeisiol a chreadigol ond yn bosibl o fewn y gyllideb i sicrhau llwyddiant y cynhyrchiad yn y Gymraeg.
Yn anffodus oherwydd problem dechnegol nid yw'r system PAC 'Taflen Gerddoriaeth' yn gweithio.
Mae'r technegwyr yn edrych i ddatrys y broblem mor fuan â phosib
Diolch am eich cydweithrediad
S4C
Mae S4C yn chwilio am syniadau newydd am ffilmiau dogfen i'w cyhoeddi ar Hansh. Rydym eisiau straeon fydd yn ysbrydoli, rhyfeddu, codi gwen, ffilmiau mentrus sy'n defnyddio ffurf ddogfen gwbl gyfoes.
Rydym yn awyddus i gael syniadau am straeon pobl ifanc eithriadol all fynd â gwylwyr mewn i fyd arall gyda naratif sy'n datblygu yn y foment; dogfennau gyda digon o hiwmor sydd cwestiynu a phrocio hunaniaethau Cymru; dogfennau sydd yn ceisio rhoi darlun bositif o amrywiaeth eang profiadau siaradwyr Cymraeg (neu siaradwyr ieithoedd eraill Cymru). Mae diddordeb mawr genym am storiau sydd wedi cael ei arwain gan fenwyod a phobl o gefndiroeth sy'n cael ei tan-gynrychioli.