S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Wyt ti eisiau pecyn Cyw? Anfona lun!

Ydy eich plentyn wedi Creu gyda Cyw eto? Anfonwch eu llun at cyw@s4c.cymru gyda enw ac oedran eich plentyn erbyn 11 Hydref i gael pecyn Cyw, ac efallai y gwnawn ni eu dangos ar Cyw.

Termau ac Amodau

1. Mae'r cynnig yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Cynhyrchiadau Boom

Cymru TV Cyf. (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

2. Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu.

3. I gystadlu mae rhaid anfon llun wedi ei greu trwy gêm Creu gyda Cyw i cyw@s4c.cymru

4. Bydd yr 20 llun cyntaf sy'n cyrraedd ebost Cyw yn derbyn pecyn Cyw

5. Os na fydd Boom Cymru TV Cyf. (y Cwmni) yn derbyn ymateb gan yr enillydd yna ceidw Boom Cymru

TV Cyf. (y Cwmni) yr hawl i wobrwyo'r wobr i'r enillydd nesaf yn unol â'i ddisgresiwn.

6. Cyhoeddir yr enillwyr ar wefan a thudalen Facebook Cyw

7. Dyddiad cau y gystadleuaeth yw 11:59 ar ddydd Mawrth 11/10/2016

8. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr.

9. Nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.

10. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.

11. Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy'n cyrraedd wedi i'r 20 gwobr cyntaf gael eu anfon.

12. Dehonglir cymryd rhan yn y gystadleuaeth fel ymrwymiad i'r rheolau hyn.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?