Bydd cymeriadau poblogaidd Cyw S4C yn dod i barc Gelli Gyffwrdd, y Felinheli ddydd Llun y Pasg 2 Ebrill. Gwasanaeth S4C i blant yw Cyw. Mae'n cael ei ddarlledu bob dydd ar y sianel, ac y mae ar gael i'w wylio ar-lein yn s4c.cymru/cyw.
Bydd cyflwynwyr a chymeriadau Cyw yn cynnal sioeau ac yn mynd o gwmpas y Parc drwy gydol y dydd. Bydd y cyflwynwyr Huw ac Elin yn ymuno â Cyw, yn ogystal â Dona Direidi a'r môr-ladron, Ben Dant a Cadi. Mae croeso mawr i blant ddod i ymuno yn yr hwyl a'r dawnsio yn sioeau Cyw, neu i gymryd rhan yn helfa wyau Pasg Cyw a fydd yn cael ei chynnal ar y diwrnod.
Dyma oedd gan Mark Rowlands, Rheolwr Gweithrediadau Gelli Gyffwrdd, i'w ddweud am y digwyddiad: "Rydyn ni wedi cyffroi'n lân bod Cyw yn dychwelyd i Gelli Gyffwrdd. Roedd y digwyddiad y llynedd yn llwyddiant mawr. O ganlyniad i'r galw mawr am griw Cyw, rydyn ni'n edrych ymlaen at eu croesawu nhw'n ôl ar 2 Ebrill."
Dywedodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C, "Mae digwyddiad Cyw ym mharc Gelli Gyffwrdd y Pasg hwn yn mynd i fod yn arbennig iawn. Mae Cyw yn dathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed eleni, a bydd Cyw a'i ffrindiau wrth eu boddau'n cwrdd â'r gynulleidfa ifanc i fwynhau diwrnod i'r brenin gyda'i gilydd."
Bydd holl ddigwyddiadau Cyw yn cael eu cynnwys ym mhris tocynnau safonol y Parc, sef £15.95 i oedolion a £15.40 i blant. Bydd modd prynu tocynnau ar y diwrnod neu ar-lein cyn y digwyddiad. Bydd amserlen ar gyfer y diwrnod yn cael ei rhannu ar wefan Parc Gelli Gyffwrdd yn nes at yr amser.