Drama newydd. Mae darganfyddiad corff nyrs yn y goedwig yn adlais o achos o lofruddiaethau hanesyddol. Ymhlith ofnau bod hwn yn waith 'copycat', mae Detective Inspector Ffion Lloyd yn cael ei galw nôl i arwain yr ymchwiliad er gwaethaf gwrthwynebiad DS Rick Sheldon. Gweithiodd Ffion a Rick yr achos hanesyddol gyda'i gilydd, ond roedden nhw hefyd wedi dyweddïo ar un adeg. Nawr nôl yn gweithio gyda'i gilydd maen nhw'n ceisio darganfod ai llofruddiaeth trais domestig yw hyn neu rhywbeth tywyllach.
Isdeitlau Saesneg ar gael.
Mae honiadau Anna am y gorffennol yn gofidio Ffion, wrth i'r helfa am Ryan Moss - cyn gariad Abbi - ddwysáu. Mae cwestiynau'n cael eu codi am chwaer Ffion, Lisa, wrth i dystiolaeth ei chysylltu â'r achos. Daw helfa i ben gydag arestiad Ryan Moss, ac mae rhyddhad wrth i Ffion a Rick ddathlu eu bod wedi dal y llofrudd. Ond a ydyn nhw wedi dal y dyn iawn?
Gyda'r prif ddrwgdybiwr dan glo, mae'r tîm yn dechrau adeiladu'r achos yn ei erbyn - pan ddaw i'r amlwg bod person gyda gwn wedi ffeindio'i ffordd mewn i'r Ysgol Gyfun leol, yn chwilio am ferch Rick, Mati. Mae Ffion yn parhau i amau cysylltiad ei chwaer â'r llofrudd, ac yn parhau i gwestiynu honiadau newydd Anna Harvey am yr achos hanesyddol. Mae Rick, sy'n amlwg dan deimlad ar ol ddigwyddiadau'r dydd, yn troi at Ffion, gan ailgynnau rhywbeth cyfarwydd rhyngddynt.
Yn sgil y digwyddiad gyda'r gwn yn yr ysgol, mae Mel yn cael ei gyfweld , sy'n arwain y tîm i'w gysylltu â llofruddiaethau hanesyddol Harvey, a llofruddiaeth Abbi yng Nghoed Cleddau. Mae gan Ffion gwestiynau mawr am yr achos hanesyddol, ac i wneud yn siwr ei bod hi'n hollol drwyadl tro yma mae'n achub y cyfle i fynd i gwestiynu Paul Harvey. Fodd bynnag, mae Rick yn benderfynol o ganolbwyntio ar yr achos bresennol. Mae eu gwahaniaethau'n achosi dadl onest a ffraeth rhyngddynt sy'n llawn angerdd.
Mae perthynas Ffion a Rick yn dwysáu wrth i'r gorffennol ddal i aflonyddu'r presennol, ond mae'n amlwg bod Rick am ddewis ei briodas. Mae Ffion yn darganfod gwirionedd am y gorffennol sy'n newid popeth rhyngddynt ac yn gorfodi Rick i gyfaddef i Vaughan am y gorffennol. Mae Ffion, yn frith o euogrwydd a chywilydd, yn poeni bod llofrudd Abbi yn parhau i fod yn rhydd. Mae Rick yn dychwelyd adref yn disgwyl pryd rhamantus i wneud iawn â Helen.
Mae Rick yn cyrraedd adref, ac yn mynd i banig pan nad yw Helen yn unman. Mae'r heddlu'n dechrau chwilio am Helen, gyda'r seithfed diwrnod yn gyflym nesau. Mae Ffion yn dilyn ei greddf, yn ôl i'r bynceri ger coed Cleddau. Mae'r llofrudd go iawn yn cael ei ddal, ond nid oes unrhyw arwydd o Helen o hyd. Mae pryderon yn cynyddu am ddiogelwch Helen ac mae Ffion rhwystredig yn methu â dod o hyd iddi. Mae Rick yn dilyn ei reddf ei hun am leoliad Helen, gyda chanlyniadau dinistriol.
Ar ba sianel deledu mae S4C? Ydy S4C ar gael ar-lein? Pa ddyfeisiau alla'i ddefnyddio i wylio S4C? Yr atebion i gyd ar un dudalen.