Chwe stori drosedd fawr a newidiodd Gymru. Fesul pennod, bydd Sian yn ein harwain drwy ddigwyddiadau syfrdanol stori drosedd, gan ymweld â lleoliadau sylweddol a chwrdd â'r rhai y mae eu bywydau wedi'u heffeithio'n uniongyrchol - o ddioddefwyr i ffrindiau a theulu, a'r gymuned ehangach. Bydd Sian yn clywed eu hanes o'r drosedd a'i heffaith barhaol.
Mae Scott Quinnell yn mynd ar siwrne unwaith eto ar hyd a lled Cymru gan droi ei law at pob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth cael llond bol o hwyl. Bydd Scott yn dychwelyd i'w filltir sgwâr cyn mynd ar antur mewn cwrwgl ar yr Afon Tywi a rhyfeddodau yna'n ei ddisgwyl yn Nhregaron.
Ym mhennod ola'r gyfres wrth i Dilwyn a John ddirwyn tuag at ddiwedd eu taith, maent yn ymweld â Wales yn nhalaith Wisconsin. O faneri'r ddraig goch i enwau strydoedd, maent yn rhyfeddu at yr holl arwyddion adawodd y sefydlwyr o Gymru ym mhob man. Caiff Dilwyn ei urddo i frawdoliaeth enwog beicwyr Harley Davidson yn nhref Milwaukee gerllaw, tra bod John yn darganfod mai Cymry o Fôn, ac nid Almaenwyr ddechreuodd fragu yn y ddinas enwog a gaiff ei galw'n brifddinas fragu'r byd. Daw'n amser wedyn i