S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Gŵydd Cymreig

'Dolig yma dw i'n cwcio gŵydd Hong Kong style efo digon o sbeis!

Sdret i mewn efo'r prep.

Tynnwch du mewn y gŵydd a'u defnyddio i neud gravy next level!

Torrwch y wings i ffwrdd a rhoi o i mewn efo'r giblets. Rhowch y gŵydd ar rac cyn gwneud y broth.

Ychwanegwch peppercorns mewn sosban o ddŵr poeth, dau hanner nionyn, oren a star anise. Gadewch y caead ar ben y sosban a'i adael i ferwi am 10 munud. Yna, gorchuddiwch y gŵydd yn y broth poeth.

Gadewch y gŵydd i oeri wrth baratoi'r sbeisys. Cymysgwch peppercorns, 5 clof, chinese five spice, halen a siwgr cyn ychwanegu rice wine vinegar, soy sauce, oyster sauce a sudd 2 clementine.

Ar ôl gwagio unrhyw ddŵr o'r gŵydd, dwi'n rhoi'r sbeisys tu mewn iddo.

Yn olaf, dwi'n rhoi garlleg i mewn, digon o clementines a nionyn.

Dwi'n gwneud yn siŵr bod o'n sealed cyn rhoi o yn y popty am 3 awr neu rhowch ar y barbeciw fel dw i'n neud mewn padell cast iron. Rhowch lwyth o nionod yn waelod y badell, clementines, garlleg ac i mewn â'r gŵydd. Gorffen off efo sudd y clementine, bacon a rhoi'r caead ymlaen a'i roi ar y tân.

Unwaith mae'r bad boy yma 'di cael 3 awr ar y tân, mi ddylai o fod yn mega juicy! Tynnwch oddi ar y tân a gadael iddo restio am o leiaf awr.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?