Cadwch unrhyw ddail da ar y cauliflower a rhoi nhw yn gyfan ar dun pobi.
I gychwyn, rhowch olive oil dros y top, cayenne pepper a rhwbio fo i mewn. Rŵan, amser i roi nhw yn y smoker. Gen i lympiau cherry wood yn y smoker 'ma, ond fedrwch chi hefyd rhoi nhw yn y popty. Ar ôl hanner awr, maen nhw'n edrych yn gorgeous!
Rŵan, amser g'neud y saws caws.
Yn gynta' dw i'n toddi menyn cyn ychwanegu blawd a'i gymysgu. Ychwanegwch hanner llefrith a hanner hufen dwbl.
Unwaith maen nhw'n dechra' byblo, tynnwch oddi ar y gwres cyn ychwanegu'r caws. Dw i'n defnyddio cheddar Cymreig.
Rŵan, prepio'r cauliflower trwy dynnu'r stalks a'u torri yn chunks meintiau gwahanol. Rhowch mewn tun pobi cyn eu gorchuddio efo'r saws. Dw i'n lyfio cic, felly dw i'n sleisio chilli a'i roi dros y top.
Gan fod hi'n 'Ddolig, dw i'n gratio nytmeg dros y cyfan a'i orffen off efo dail sage. Rhowch yn y popty am hanner awr ar wres o 180C. Unwaith mae'r edges wedi cychwyn crasu, ti'n gwybod bod hi yna!
Dw i'n rhannol ferwi moron piws, oren a melyn a'i rhostio efo mêl a pine nuts i fynd efo'r cinio 'Dolig.
Hefyd dw i'n neud tatws mash a'n defnyddio'r garlic nes i rostio efo'r gŵydd a digon o olive oil. G'neud change o ddefnyddio menyn ac mae o'n neud mash chi'n super silky!
Nes i ddeud i beidio taflu'r giblets 'na do?! Ffriwch nhw efo adenydd yr ŵydd i wneud stoc home-made. Defnyddiwch hwn i wneud gravy next level efo llwyth o port.
A'r secret i datws rhost rili crispy – berwi nhw am bum munud, wedyn bastio nhw mewn saim gŵydd a llwyaid dda o Marmite. Rhowch yn y popty ar wres o 180C am 40 munud a fydden nhw'n crunchy to the max.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?