S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Iawn ta - scrumpets time!

Rhowch y cig mewn tun a g'neud marinade syml i fynd efo fo - garlleg, olew, pupur, halen môr, dulse a'r wakame.

I fynd dros y cyfan - 'chydig o biar Cymreig amdani! Tycio'r ysgwyddau gafr efo baking paper a lapio'r cyfan efo foil cyn rhoi o yn y popty ar wres o 170C am 3 awr.

Ma' hwn yn surf and turf next level go iawn. Pan mae'r shoulder blade yn dod allan yn smooth - ti'n gwybod ti 'di nailio hi!

Tra mae'r cig yn oeri, dwi'n leinio tunia' pobi efo baking paper.

Hwn ydi'r cig mwya' tender dw i erioed wedi gweld so dw i'n torri fo'n ddarna' a'i osod o yn y tunia' efo'r gwymon.

Pan mae'r tunia' wedi ei llenwi, dw i'n topio nhw fyny efo'r hylif. Hwnna ydi'r biar a'r fat sydd wedi rendro a fusio efo'r gwymon hallt 'na.

Wedyn, dwi'n cyfro efo mwy o baking paper a pwyso nhw lawr efo tun arall a cwpl o cans cyn rhoi yn y ffrij dros nos.

Dwi'n defnyddio blawd, wyau a panko breadcrumbs wedi cymysgu efo ceirch i gyfro sleisys o'r cig cyn ffrio nhw ar wres canolig.

Unwaith maen nhw yn y badell, gadewch iddyn nhw developio crust ar bob ochr. (tua munud bob ochr)

Unwaith maen nhw 'di cael tua munud dda bob ochr, maen nhw'n barod i ddod off y gwres.

I fynd efo hwn, dw i wedi g'neud curry sauce spicy a melys efo apricots, afalau a llefrith coconut wedyn blitzio fo fel bod o'n creamy fath a curry siop chips next level!

Gafr a gwymon - fish finger mwya' next level dw i erioed wedi cael!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?