S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Nwdls Cranc

Iawn ta, i neud y 'Pot Noodle' mwya' next level, 'dw i 'di cael pot clai Chinese.

Dipyn bach mwy cŵl na pot Bombay Bad Boy ti'n cael o'r siop yndi?!

Gyno fi bol porc mochyn Cymreig wedi ei simro am awr a hanner mewn sdoc efo 'chydig o cumin, ffenigl, caraway, tsili wedi'i fygu a Worcestershire sauce.

Cofiwch i gadw'r 'liquid gold' 'na ar ôl cwcio; y sdoc a'r ffat 'na sydd wedi rendro o'r porc.

'Dw i'n defnyddio cig cranc sydd wedi ei prepio'n barod a nwdls wedi socian mewn dŵr oer am tua chwarter awr.

Yn gynta' dw i'n mynd i gychwyn efo saws 'Thai style' efo llwyth o limes. Dydi o ddim yn Thai sauce heb limes nadi?!

'Da chi'n 'nabod fi - dw i'n licio cic. 'Dw i'n defnyddio cymysgedd o tsilis a sleisio nhw'n fân cyn gratio sialot a garlleg.

Yna, 'dw i'n ychwanegu fish sôs, dipyn bach o siwgr brown a chives cyn cymysgu bob dim efo'i gilydd.

'Wan, 'dw i am turbochargio'r sdoc 'efo glug go dda o fish sôs, oyster sôs, soy sôs tywyll a soy sôs ysgafn.

Wedyn, 'dw i'n sleisio'r porc yn denau a 'da ni'n barod i greu'r layers yn y pot clai 'na.

'Dw i'n rhoi dipyn bach o olew yn y gwaelod a cyfro gwaelod y pot yn y bol porc. Wedyn ' i'n rhoi'r nwdls dros y porc cyn topio off efo'r cig cranc a'r 'liquid gold' 'na.

Caead ar, ac ar y tân a fo! Dim rhy hir i aros 'wan!

Ar ôl y pot noodle fod yn byblo am tua 10 munud mae o'n barod.

Topio fo efo claw y cranc a'r sôs hardcore 'na - jesd drizzlo fo 'mlaen a 'na chi, nwdls next level!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?