S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cacio e Pepe

Olwyn o gaws Teifi wedi'i aeddfedu (debyg i Parmesan)

Blawd 00

Wyau

Wisgi o Ddistyllfa Aber Falls

Grawn pupur

Dw i'n cychwyn trwy wneud pasta efo blawd '00'. Gwnewch bant bach yn ganol y blawd mewn powlen ac ychwanegu'r wyau. Am bob 100g o flawd 'da chi eisiau un ŵy. Dw i'n dechra cymysgu efo fforc ac wedyn dwylo i mewn i ddod â'r toes at ei gilydd. 'Chydig o 'kneadio' 'wan tan mae o fel Play-Doh yna'i lapio mewn clingfilm. Sorted!

Dw i 'di carfio'r top off y caws a tynnu 'chydig o'r tu mewn allan i'w ddefnyddio fel powlen. Hwn ydi'r bowlen fwya' off-the-hook, caws-on-caws action gewch chi!

I gychwyn g'neud y pasta, dw i'n rhoi dŵr ar y tân. Unwaith mae'r toes wedi chillio 'chydig, dw i'n ei dorri yn ddarnau llai, gwasgu fo i lawr 'chydig a'i roi trwy'r teclyn gwneud pasta. Efo pasta ffres fel hwn, dim ond tua 3 munud fydd o angen yn y dŵr.

I 'neud pethau'n fwy next level, gen i sosban fach o wisgi o ddistyllfa Aber Falls - felly flambé amdani 'efo blow torch cyn ei arllwys i mewn i'r bowlen gaws. Strêt mewn 'efo'r pasta wedyn. Defnyddiwch y dŵr starchy o'r pasta i orchuddio'r cwbl a toddi'r caws. Dw i'n cymysgu'r pasta cyn ychwanegu grawn pupur wedi malu'n fân ac mae o'n barod! Iechyd da...

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?