Intro: 'Nesh i ddysgu sut i 'neud 'chopped cheese' gan fy ffrind newydd, brenin caws 'di chopio, Sibs aka Wavy Savory aka perchennog SHMACKWICH yn Efrog Newydd. Dyma'n nhwist i ar ddau NY classic - 'dwi 'di cyfuno chop cheese efo pizza i 'neud calzone NEXT LEVEL!'
Cynhwysion
x2 pati bîff wagyu
Halen
Caws: Provolone, sleisys rhad caws Americanaidd, a Cheddar
Sôs Worcestershire
Stoc cig eidion
Toes pizza
Tomatos tun
Sôs sbeislyd
Sôs byrgyr
Picls
Nionyn
Dull
Yn gynta' dw i'n ffrio patis wagyu efo 'chydig o halen yna torri nhw yn y pan, tynnu off y gwres unwaith mae'r cig wedi coginio.
Mewn efo'r caws: Provolone gynta, wedyn sleisys o gaws Americanaidd rhad 'neith fynd yn gooey lyfli, yna Cheddar am flas hallt.
Ychwanegu joch o Worcestershire sauce, yna nôl ar y gwres i doddi.
Dwi'n deglazio efo mymryn o stoc cig eidion a gadael iddo oeri cyn llenwi'r calzone.
I'r toes, dw i'n defnyddio toes pizza o siop Sibs, Shmackwich.
Dw i'n stretchio'r toes allan a rhoi digon o'r cig eidion cawslyd tu mewn, ychwanegu 'chydig o domatos o'r tun a mwy o gaws cyn cau'r calzone i fyny.
Mewn i'r popty! Dwi'n defnyddio Gozney roccbox fi - ma hwn yn cwcio'n gyflym. Fedrwch chi ddefnyddio popty ar y tymheredd uchaf mae o'n mynd i goginio'r calzone.
Cadwch lygad arno fo - 'ma smotia' llewpart 'ma'n sein bod y toes 'di fermention'n dda.
Allan o'r tân, ar y plât, a'i dorri'n hanner.
Dwi'n lyfio hwn efo sôs sbeislyd, sôs byrgyr, picls a nionyn. CHOP, CHOP BABY!!
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?