S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Hawt Dawg

Ar ôl sosij masterclass yn The Meat Hook gan y guru Kimberly Plafke aka STEAK GYLLENHAAL - esh i adra i'r Brooklyn pad a coginio'r hot dog awesome 'ma i fy hun.

Cynhwysion

  • Sosijis
  • Dehydrated shrimp
  • Cennin
  • Bonito flakes
  • 2 melynwy
  • Mwstard Americanaidd
  • Anchovies
  • Pâst chili am gic
  • Sôs coch
  • Persli

Dull

  1. Dw i'n smocio'r sosijis efo pren ceirios i roi lliw coch iddyn nhw.
  2. Dw i 'di cael toppings cool o'r siop Oriental
  3. Surf 'n' turf vibe - dw i'n ffrio off dehydrated shrimp, umami bomb!
  4. Dw i'n torri cenin Cymreig i mewn i strips a'i ffrio tan ma' nhw'n crispy, crispy!
  5. Wedyn 'chydig o bonito flakes, tuna flakes di fermentio a smocio - ma' hwn yn delicate cross rhwng anchovy a bacon fried crisps odda chi'n cal yn y pub.
  6. I neud anchovy mayo: mewn efo 2 melynwy, bach o mwstard Americanaidd ac anchovies. Dw i'n defnyddio hand blender i flendio bob dim yn slo bach efo'r olew.
  7. Dw i'n ffrio'r shrimp efo past chilli am fwy o gic, yna'r cenin - ar ol munud, shrimp a cenin di mynd mega crispi.
  8. Iawn ta sosij di smocio'n braf am hanner awr, mae'n amser i adeiladu'r ci poeth next level ma.
  9. Rhoi bach o'r mayo mwstard anchovy, shrimp chilli crispi, mymryn o parsley, cenin crispi a bonito flakes.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?