Os wyt ti isho blas o Chinatown, ac isho i dy dŷ di ogleuo fatha Chinatown, gen i jest y rysáit i chdi. Nwdls Biang Biang. Nwdls o ardal Chiang yn Tsieina sydd wedi'u hymestyn â llaw a'u torri â llaw. Mor syml a mor hawdd, mae rhein yn pacio punch!
Cynhwysion:
2 gwpan o flawd plaen
Pinsiad o halen
Ychydig o ddŵr
Shibwns (Neu sbring onions i chi'r Cofis!)
Tsili flêcs
Tsili ffres
Powdr tsili
Garlleg x 2 ewin
Saws pysgod
Finegr reis brown
Saws soi
Olew llysiau
Dull:
Rhowch y blawd mewn powlen, ychwanegwch yr halen a'r dŵr a chymysgwch tan mae'n ffurfio toes. Unwaith mae o wedi dod at ei gilydd, rhowch y toes ar y bwrdd a'i dylino am tua 10 munud.
Torrwch y toes yn ddarnau maint bys a rhowch nhw ar blat. Rhowch ychydig o olew arnynt, a gorchuddiwch efo clig film cyn gadael iddynt brofi am awr ar dymheredd ystafell.
Rhowch un darn o does ar fwrdd a defnyddiwch rholbren i'w rolio'n fflat, cyn pwyso chopstick lawr canol y darn i greu gwythien.
Rwan am Biang Biang! Gafaelwch ar ddau ben y toes (defnyddwch ddwy law) a'i 'slapio' ar y bwrdd i'w ymestyn - bydd angen gwneud hyn rhyw 5 gwaith i ffurfio'r nwdls.
Rhwygwch ar hyd y wythien 'da chi wedi greu efo'r chopstick i greu un nwdl hir. Gwnewch hyn gyda'r darnau toes eraill.
Coginiwch y nwdls mewn dwr berwedig. Unwaith mae nhw'n dod i'r wyneb mae nhw'n barod. Rhowch y nwdls sydd wedi coginio mewn powlen.
Cynheswch ychydig o olew yn ofalus mewn sosban fach.
Torrwch y tsili ffresh, y shibwns a'r garlleg yn fân a rhowch nhw ar ben y nwdls sy'n bowlen. Yna, 'mlaen efo pinsiad da o bowdr tsili, y flêcs tsili, joch o saws pysgod, y finegr a'r saws soy.
Yn ofalus iawn, rhowch chydig o'r olew poeth ar ben y nwdls yn y bolwen a chymysgu'n dda gyda chopsticks. Mwynhewch!
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?